Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad (BSU) wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, Y Gyfarwyddiaeth Polisi a Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn darparu arbenigedd arbenigol ar wyddor ymddygiad, ac yn hyrwyddo ac yn galluogi ei chymhwyso’n gynyddol fel mater o drefn, i wella iechyd a llesiant yng Nghymru.

Ein Tîm

Ashley Gould

Mae Ashley yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen yr Uned. Mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol a chydlynu gwaith yr Uned, gan ddarparu polisi arbenigol, cymorth technegol ac ad-hoc a datblygu gallu a chapasiti systemau wrth ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella iechyd a llesiant. Mae’n Gyd-Gadeirydd Is-grŵp Cyfathrebu Risg a Mewnwelediadau Ymddygiad Grŵp Cynghori Technegol COVID-19 Llywodraeth Cymru, ac mae wedi bod yn aelod o’r grŵp drwy’r ymateb acíwt i’r pandemig. Yn flaenorol, Ashley oedd yn arwain system rheoli tybaco Cymru, a gyflawnodd bum mlynedd o dwf yn olynol yng nghyfran yr ysmygwyr a ddewisodd roi’r gorau iddi gyda chymorth y GIG – a gyflawnwyd yn rhannol drwy ymgyrchu ar sail ymddygiad a gwella systemau. Y tu allan i’r gwaith, mae ganddo bedwar o blant….mae’n byw ym Mharc Cenedlaethol y Bannau, ac yn hyfforddi rygbi ieuenctid.

Jonathan West

Mae Jon yn rheoli’r tîm, gan arwain ein rhaglen ymchwil a’n rhwydwaith academaidd, gan ddefnyddio a chysylltu arbenigedd ac adnoddau gwyddor ymddygiad lle gellir eu defnyddio i wella effaith er budd pobl Cymru. Mae Jon yn falch o fod yn Aelod o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd trwy Ragoriaeth i gydnabod bron i 25 mlynedd o wasanaeth i iechyd y cyhoedd mewn amrywiaeth o rolau iechyd cyhoeddus craidd yng Nghymru a Lloegr, ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer fawr o brosiectau newid ymddygiad poblogaeth o gasglu mewnwelediad, trwy ddatblygu a gweithredu ymyriadau i werthuso. Cyn y swydd hon roedd Jon yn Bennaeth Newid Ymddygiad a Gwybodaeth Gyhoeddus yn Is-adran Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddarparu arbenigedd newid ymddygiad ar draws ystod o bynciau. Yn ystod y pandemig darparodd Jon gymorth gwyddor ymddygiad arbenigol i ymdrechion atal a rheoli heintiau ar draws y GIG a Llywodraeth Cymru ac roedd yn aelod o is-grŵp Cyfathrebu Risg a Mewnwelediadau Ymddygiad TAG.

Katarina Chacon

Graddiodd Kat o Brifysgol Fetropolitan Abertawe gyda BA (Anrh) mewn Dylunio ar gyfer Hysbysebu. Ymunodd fel Cynorthwyydd Personol i Ashley Gould ym mis Hydref 2021 ac mae ganddi gefndir gweinyddol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae Kat yn berson creadigol sy’n caru cerddoriaeth a bod yn gynaliadwy, felly dechreuodd ei busnes ei hun eleni yn gwneud hetiau gŵyl gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u huwchgylchu.

Nicky Knowles

Mae gan Nicky ugain mlynedd o brofiad yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio i nifer o ddarparwyr, mewn amrywiaeth o leoliadau, a chyda phoblogaethau amrywiol, mewn rolau gweithredol a strategol. Ym maes iechyd y cyhoedd, mae portffolio Nicky wedi cynnwys Rheoli Tybaco, Camddefnyddio Sylweddau a Dulliau System Gyfan at Ordewdra. Trwy’r profiad hwn mae Nicky wedi datblygu, darparu a gwerthuso ystod o ymyriadau a pholisïau newid ymddygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar lefel unigolion, cymunedau a phoblogaeth. Yn ei hamser hamdden

Alice Cline

Ymunodd Alice ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad ym mis Chwefror 2022, gan weithio i ddechrau ym maes diogelu iechyd gan ganolbwyntio ar y niferoedd sy’n cael brechlynnau – symudodd Alice i’r Uned Gwyddor Ymddygiad ym mis Awst ac mae bellach yn cefnogi gwaith sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach a meithrin gallu. Mae Alice wedi gweithio ar ystod eang o bynciau gan gynnwys cynyddu’r nifer sy’n cael y brechlyn HPV, gwella mynediad at wasanaethau fel ymateb i’r Argyfwng Costau Byw, rhagnodi gwrth-fiotigau yn ddiogel mewn lleoliadau gofal iechyd, a chymhelliant rheoli pwysau a gosod nodau. Cyn Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu Alice yn gweithio mewn llywodraeth leol tra’n cwblhau ei PhD, a oedd yn archwilio sut y gellid defnyddio gwyddor ymddygiad i helpu i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol o fewn ystafelloedd dosbarth ysgolion cynradd. Mae ei diddordebau’n cynnwys ymchwil ansoddol, gwerthuso ac effaith, dylunio ymyriadau, a’i spaniel sbrocer Hugo.