Mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau ym maes datblygu polisi, gwasanaeth neu gyfathrebu yn cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr gwyddor ymddygiad, ac nid oes angen iddynt fod felly. Fodd bynnag, gall gwyddor ymddygiad ychwanegu gwerth at ymdrechion bron pob ymarferydd a lluniwr polisi – mae cefnogi’r datblygiad hwnnw yn nod mawr i’r Uned. Mae datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol gwyddor ymddygiad a sut i alluogi ei gymhwyso o fewn prosiect, tîm, neu sefydliad yn allweddol i gynyddu ei defnydd ar draws y system.
Mae diddordeb mewn gwyddor ymddygiad yn cynyddu’n gyflym, mae yna adnoddau, offer ac arweiniad gwych eisoes ar gael i chi ddysgu oddi wrthynt a’u cymhwyso yn eich ymarfer bob dydd. Yn ogystal â rhannu ein hadnoddau ein hunain, rydym wedi coladu’r hyn yr ydym wedi’i ganfod yn ddefnyddiol yn y tudalennau isod.
Rydyn ni wedi eu rhannu yn dibynnu ar ba gam yn y broses gwyddor ymddygiad rydych chi wedi’i gyrraedd, mae mwy o fanylion am y camau i’w cael yma.
Teitl | Awdur | Disgrifiad | Adnoddau |
---|---|---|---|
7 Egwyddor GRAPHIC Dylunio Ffeithluniau Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig) | Dr Catherine Stones a Dr Mike Gent | Canllaw i unrhyw sefydliad neu ddylunydd sydd angen dylunio neu gomisiynu ffeithluniau iechyd y cyhoedd ar gyfer y cyhoedd | Gweld yr adnodd |
Canllaw Cymorth Ail-ddelweddu (Saesneg yn unig) | Nesta, Cymorth Canser Macmillan, British Heart Foundation, Canolfan Newid Ymddygiad UCL | Dull seiliedig ar dystiolaeth o helpu pobl i gyrraedd eu nodau - rhyngweithiadau iechyd a llesiant wedi'u llywio gan ymchwil newid ymddygiad | Gweld yr adnodd |
Datblygu Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad (Uned Gwyddor Ymddygiad) | Uned Gwyddor Ymddygiad | Offeryn rhyngweithiol i'ch helpu i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar ymddygiad wrth ddylunio'ch cyfathrebiadau | Gweld yr adnodd |
Egwyddorion Newid Ymddygiad Cyfathrebu (Saesneg yn unig) | Swyddfa'r Cabinet | Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut y gall cyfathrebwyr y llywodraeth ddefnyddio dull ymddygiadol i gynllunio a gweithredu ymgyrchoedd cyfathrebu effeithiol | Gweld tudalen we |
Fframwaith EAST (Saesneg yn unig) | Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad | Gwybodaeth am sut i wneud newid ymddygiad yn hawdd, yn ddeniadol, yn gymdeithasol ac yn amserol (EAST). | Gweld tudalen we |
Gwella Lechyd a Llesiant: Canllaw i Ddefnyddio Gwyddor Ymddygiad mewn Polisi ac Ymarfer (Uned Gwyddor Ymddygiad) | Uned Gwyddor Ymddygiad | Canllaw i ymarferwyr a llunwyr polisi yn egluro sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad a’i chymhwyso’n ymarferol | Gweld yr adnodd |
Hyfforddiant Tacsonomeg Technegau Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) | Canolfan Newid Ymddygiad UCL | Hyfforddiant ar dacsonomeg techneg newid ymddygiad | Gweld tudalen we |
MINDSPACE (Saesneg yn unig) | Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad | Mae’r ddogfen hon yn nodi naw dylanwad cadarn ar ymddygiad, sydd wedi’u cynnwys mewn mnemonig - MINDSPACE - y gellir ei ddefnyddio fel rhestr wirio gyflym wrth lunio polisïau. | Gweld tudalen we |
Offer ac Adnoddau Cyfweld Ysgogiadol (Saesneg yn unig) | Offer Seicoleg | Roedd yr offer yn canolbwyntio ar egwyddorion MI, pedair proses mewn MI, a sgiliau craidd mewn MI | Gweld tudalen we |
Offeryn Theori a Thechnegau (Saesneg yn unig) | Canolfan Newid Ymddygiad UCL | Adnodd rhyngweithiol i ddeall y cysylltiadau rhwng technegau newid ymddygiad (BCTs) a'u mecanweithiau gweithredu (MoAs). | Gweld tudalen we |
Tacsonomeg Techneg Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) | Canolfan Newid Ymddygiad UCL | Manylion 93 o dechnegau newid ymddygiad (BCTs) gyda labeli, diffiniadau ac enghreifftiau. | Gweld tudalen we |
WISER: Fframwaith ar gyfer Gwella Ffurflenni Llywodraeth (Saesneg yn unig) | Tîm Economeg Ymddygiadol, Llywodraeth Awstralia | Ffactorau i'w hystyried wrth lunio ffurflenni sefydliadol | Gweld yr adnodd |
Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd: Defnyddio Gwyddor Ymddygiad (Uned Gwyddor Ymddygiad) | Uned Gwyddor Ymddygiad | Canllaw a gynlluniwyd i gefnogi llunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i greu ymyriadau effeithiol i ymateb i'r argyfwng hinsawdd | Gweld yr adnodd |
Yr Olwyn Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) | Susan Michie, Lou Atkins, Robert West | Canllaw i ddylunio ymyriadau a pholisïau newid ymddygiad, gan gyfuno 19 o fframweithiau newid ymddygiad. | Gweld tudalen we |