Mae’r adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth ymchwil a barn arbenigol i gefnogi atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau er mwyn sicrhau economi gynaliadwy, cymdeithas ffyniannus a’r iechyd a’r lles gorau posibl ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Dyma’r trydydd mewn cyfres o adroddiadau sy’n edrych ar nifer yr achosion o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ym mhoblogaeth oedolion Cymru a’u heffaith ar iechyd a lles ar draws cwrs bywyd.
Awduron: Kathryn Ashton, Mark Bellis+ 4 more
, Katie Hardcastle, Karen Hughes, Susan Mably, Marie Evans
Diben yr Ymweliad Astudio hwn oedd rhoi cyfle i rannu syniadau ac ymagweddau ymarferol tuag at gysylltu’r agenda datblygu cynaliadwy ac iechyd a lles y boblogaeth ar draws cyd-destunau strategol a gweithredol.
Y catalog ariannu hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o ddeunyddiau gwybodaeth i gysylltu cyfleoedd ariannu allweddol yr Undeb Ewropeaidd (UE) â blaenoriaethau iechyd a lles Cymru.
Mae’r IHCC yn deillio o ddogfen Llywodraeth Cymru ‘Iechyd yng Nghymru a Thu Hwnt i’w Ffiniau: Fframwaith ar gyfer cysylltu’n rhyngwladol ym maes iechyd’, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012
Mae’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru, a ddatblygwyd gan Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC), Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn seiliedig ar hanes Cymru o gyflawni a dysgu yn y maes hwn ac mae’n amlinellu pedair sylfaen partneriaethau iechyd rhyngwladol llwyddiannus. Y llofnodwyr yw sefydliadau iechyd yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i’r sylfeini hyn, sy’n gwerthfawrogi ac yn cydnabod y manteision i’n partneriaid dramor yn ogystal â’r buddion i’r GIG a chleifion yng Nghymru.
Awduron: Lauren Couzens (née Ellis), Mark Bellis+ 7 more
, Susan Mably, Malcolm Ward, Chris Riley, Gill Richardson, Beth Haughton, Tony Jewell, Hannah Sheppard