![Photo of Mark Bellis](https://whocc.pobl.tech/wp-content/uploads/2020/10/mark-bellis.png)
Yr Athro Mark Bellis yw Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athro Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor. Mark yw Pennaeth Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (wedi ei leoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru) ac mae’n aelod o banel ymgynghori arbenigol byd-eang WHO ar atal trais. Yn flaenorol, mae Mark wedi bod yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn Lloegr ac yn Bennaeth y Ganolfan Iechyd y Cyhoedd yn Lerpwl; un o unedau ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd mwyaf y DU ar y pryd. Mae wedi gwneud gwaith sylweddol ym meysydd atal trais, alcohol cyffuriau ac iechyd rhywiol. Yn ogystal â gwaith rhyngwladol gyda WHO, mae’r Athro Bellis hefyd wedi gweithio fel cynghorydd i sefydliadau yn cynnwys; Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig, Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddu a Chronfa Argyfwng Plant Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig. Mae wedi cyhoeddi dros 190 o bapurau academaidd a thros 250 o adroddiadau iechyd y cyhoedd cymhwysol. Mae’n parhau i arwain rhaglen ymchwil barhaus yn archwilio Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a’u heffaith ar iechyd ac ymddygiad ar draws cwrs bywyd.