Gweler isod am ein hadnoddau dan sylw
A yw Brexit wedi newid darganfod ac atal masnach anghyfreithlon mewn cyffuriau, alcohol a thybaco yng Nghymru?
Mae’r papur briffio hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn crynhoi’r systemau rhyngwladol y cymerodd y DU a Chymru ran ynddynt i fynd i’r afael ag alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon cyn Brexit. Yna bydd yn archwilio sut mae’r rhain wedi newid ar ôl Brexit a pha effaith bosibl y gallant ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.
Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd. Mewn ffocws: Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Meithrin perthnasoedd cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru: heriau a chyfleoedd
Mae’r papur briffio polisi hwn yn darparu adolygiad cyflym o ddylanwad perthnasoedd a rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn ar iechyd a sut mae COVID-19 a’r heriau costau byw presennol yn effeithio arno. Mae’n tynnu sylw at bolisïau ac arferion sy’n cryfhau rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn gyda’r bwriad o wella llesiant, dod dros heriau ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau hŷn y presennol a’r dyfodol.
Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru
Bydd Platfform Atebion Tegwch Iechyd Cymru yn gweithredu fel ystorfa o wybodaeth, astudiaethau achos ac ymyriadau blaenorol a ddefnyddir er mwyn helpu i fynd i’r afael ag annhegwch a rhannu arfer da yng Nghymru.