Dr Sumina Azam,Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Sumina yw’r arweinydd polisi yn adran Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, lle mae wedi gweithio ers 2015. Cyn ei swydd bresennol, roedd yn ymgynghorydd yn nhîm iechyd y cyhoedd lleol Powys am dair blynedd. Gweithiodd Sumina mewn meddygaeth gyffredinol cyn gwneud hyfforddiant iechyd y cyhoedd yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, lle cynhaliodd brosiectau ar lefel leol a rhanbarthol.
Ar hyn o bryd mae Sumina yn arwain tri thîm: Polisi; Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru; a’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Mae portffolio Sumina yn cefnogi ymateb iechyd y cyhoedd Cymru i Brexit, er enghraifft trwy ymchwil, gweithio gyda sefydliadau partner a thrwy waith yn Asesu effaith goblygiadau iechyd y cyhoedd Brexit yng Nghymru ar Iechyd.