![](https://whocc.pobl.tech/wp-content/uploads/2022/10/Georgia-Saye-150x227.jpg)
Mae Georgia yn darparu cymorth gweinyddol a chlerigol cynhwysfawr a chyfrinachol fel rhan o adnodd gweinyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys: cysylltu a helpu i gydlynu cyflenwyr, cefnogi’r gwaith o ledaenu a chydlynu adnoddau, a threfnu a helpu i gynllunio cyfarfodydd/digwyddiadau. Yn y gorffennol mae wedi gweithio fel gweithiwr prosiect gyda’r digartref, fel swyddog gorfodi ac yn fwyaf diweddar fel swyddog adnoddau a gweinyddu yn nerbynfa CQ2. Mae’n mwynhau cadw’n heini a chwarae rygbi, teithio, ac wedi cwblhau interniaeth datblygu cymunedol 3 mis ym Mecsico.