Cartoon style image of health care workers smiling and taking care of young people, one of which is in a wheelchair

Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru

Bydd Platfform Atebion Tegwch Iechyd Cymru yn gweithredu fel ystorfa o wybodaeth, astudiaethau achos ac ymyriadau blaenorol a ddefnyddir er mwyn helpu i fynd i’r afael ag annhegwch a rhannu arfer da yng Nghymru.
Mae’r platfform yn cynnwys offer data chwiliadwy a swyddogaeth llunio adroddiadau sy’n galluogi defnyddwyr i fewnbynnu eu termau chwilio a pharatoi allbynnau sy’n gysylltiedig â’r termau hynny. Mae’r platfform hefyd yn cynnig nodwedd sbotolau y gellir ei defnyddio i amlygu atebion neu themâu penodol.
Bydd y tîm yn datblygu’r platfform dros amser er mwyn ychwanegu cynnwys a nodweddion ychwanegol.

Awduron: Rebecca Hill, Jo Peden+ 12 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis), Mariana Dyakova, Daniela Stewart, James Allen, Liz Green, Rebecca Masters, Leah Silva, Sara Cooklin-Urbano, Golibe Ezenwugo, Abigail Malcolm (née Instone), Jason Roberts, Rajendra Kadel

Cartrefi oer a’u cysylltiad ag iechyd a llesiant: adolygiad llenyddiaeth systematig

Fel rhan o brosiect ehangach i benderfynu a yw’r safonau cyfredol ar gyfer tymereddau dan do ar aelwydydd Cymru yn optimaidd ar gyfer cysur, iechyd a llesiant pobl, nod yr adolygiad hwn yw pennu ac arfarnu’r dystiolaeth gyfredol ynglŷn â’r cysylltiad rhwng cartrefi oer ar y naill law ac iechyd a llesiant ar y llaw arall.

Awduron: Hayley Janssen, Ben Gascoyne+ 4 mwy
, Kat Ford, Rebecca Hill, Manon Roberts, Sumina Azam

Newid Hinsawdd ac Iechyd yng Nghymru: Barn y Cyhoedd

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol arolwg o oedolion sy’n byw yng Nghymru ynghylch eu canfyddiadau o ran newid hinsawdd ac iechyd. Er bod gwaith i ddeall a lliniaru newid hinsawdd yn magu momentwm yng Nghymru, prin yw’r wybodaeth o hyd am farn ac ymddygiad y boblogaeth. Mae data o’r fath yn hanfodol ar gyfer cyd-greu dulliau effeithiol a derbyniol o ymdrin â newid hinsawdd sy’n helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd; targedu negeseuon a gwybodaeth allweddol; a sefydlu datrysiadau hirdymor ar draws Cymru a fydd yn parhau i gael eu cefnogi ar draws sawl cenhedlaeth. Er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch hwn, datblygwyd arolwg cyhoeddus i geisio barn y boblogaeth am newid hinsawdd, ei berthynas ag iechyd, eu hymddygiad presennol sy’n ystyriol o’r hinsawdd, eu parodrwydd i gymryd rhan mewn camau gweithredu, a barn am ddatrysiadau polisi. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol yr arolwg, gan roi barn y boblogaeth ar newid hinsawdd ymhlith trigolion Cymru sy’n oedolion.

Awduron: Sara Wood, Karen Hughes+ 3 mwy
, Rebecca Hill, Natasha Judd, Mark Bellis

Gwerthusiad o ffilm fer yn hyrwyddo caredigrwydd yng Nghymru yn ystod cyfyngiadau COVID-19 #AmserIFodYnGaredig

IMewn ymateb i gyfyngiadau COVID-19 olynol yng Nghymru, lansiodd Hyb Cymorth ACE Cymru yr ymgyrch #AmserIFodYnGaredig ym mis Mawrth 2021. Defnyddiodd yr ymgyrch ffilm fer a ddarlledwyd ar deledu cenedlaethol a’i hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol i annog newid ymddygiad er mwyn bod yn garedig. Mae’r llawysgrif hon yn gwerthuso ffilm yr ymgyrch #AmserIFodYnGaredig. Roedd y canfyddiadau’n awgrymu’n gryf y gall ffilm fod yn arf effeithiol i hybu newid ymddygiad er mwyn bod yn garedig ac y gall hyd yn oed ffilmiau sy’n ysgogi adweithiau emosiynol cryf gael eu dirnad yn gadarnhaol ac arwain at newid ymddygiad. Mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn berthnasol i sut y gall negeseuon iechyd y cyhoedd addasu a defnyddio gofod ar-lein i dargedu unigolion a hyrwyddo newid ymddygiad.

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis+ 2 mwy
, Rebecca Hill, Karen Hughes