Y Calendr Cryno Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu 2022/23

Y Calendr Cryno Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu hwn yw’r trydydd yn y gyfres, yn dilyn y Calendrau Cryno o 2020/21 a 2021/22. Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, cyfosod a chyflwyno crynodeb clir a chryno o’r pum Adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf, ers Ebrill 2022 hyd at Fawrth 2023. Yn ogystal, mae’r ddau adroddiad cryno (a gyhoeddwyd yn 2022) wedi’u cynnwys. Mae’r llif gwaith Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu wedi dangos ei fod yn arddangos ymchwil addysgiadol ac effeithiol wrth goladu data o wledydd eraill, gan ddarparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur esblygol ac ansicrwydd pynciau iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg, sydd wedi ceisio gwella a llywio gweithredoedd a dulliau o’r fath yng Nghymru.

Nod y crynodeb yw llywio trosolwg cryno o weithredu polisi cynhwysfawr, cydlynol, cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi cefnogi’r strategaethau cenedlaethol tuag at Gymru iachach, mwy cyfartal, cydnerth, llewyrchus a chyfrifol yn fyd-eang, ac sy’n parhau i wneud hynny. Mae’r calendr hwn yn cynnwys negeseuon allweddol ac argymhellion allweddol o dudalennau synthesis lefel uchel pob adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol.

Mae’r themâu’n cynnwys:
• Gofal canolraddol
• Yr argyfwng costau byw
• Diogelu’r amgylchedd addysgol rhag COVID: 4-18 oed
• Addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar
• Ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer derbyn brechlynnau
• Effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a bregusrwydd cynyddol
• Effaith COVID-19 ar ehangu’r bwlch iechyd a bregusrwydd

Awduron: Mariana Dyakova, Emily Clark+ 14 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Abigail Malcolm (née Instone), Golibe Ezenwugo, Leah Silva, Anna Stielke, Sara Cooklin-Urbano, Lauren Couzens (née Ellis), James Allen, Aimee Challenger, Claire Beynon, Mark Bellis, Mischa Van Eimeren, Angie Kirby, Benjamin Bainham

Deall anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru gan ddefnyddio dull dadgyfansoddi Blinder-Oaxaca

Ar draws Cymru a’r byd, mae anghydraddoldeb iechyd yn parhau’n broblem sydd yn rhyng-gysylltiedig gyda deinameg cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach a chymhleth. O ganlyniad, mae angen i weithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn iechyd ddigwydd ar lefel strwythurol, gan gydnabod y cyfyngiadau sy’n effeithio ar allu a chyfle unigolyn (neu gymuned) i alluogi newid. Er bod ‘penderfynyddion cymdeithasol iechyd’ yn gysyniad sydd wedi ei sefydlu, mae deall cyfansoddiad y bwlch iechyd yn llawn yn dibynnu ar gipio cyfraniadau perthnasol myrdd o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn dadansoddiad meintiol. Ceisiodd y dadansoddiad dadgyfansoddi esbonio’r gwahaniaethau ym mynychder y canlyniadau hyn mewn grwpiau sydd wedi eu haenu yn ôl eu gallu i arbed o leiaf £10 y mis, a ydynt mewn amddifadedd materol, a phresenoldeb salwch, anabledd neu wendid hirsefydlog sy’n cyfyngu. Fe wnaeth y dadansoddiad nid yn unig feintioli’r bylchau iechyd arwyddocaol oedd yn bodoli yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig COVID-19, ond mae hefyd wedi dangos pa benderfynyddion iechyd oedd mwyaf dylanwadol. Mae deall y ffactorau sydd fwyaf cysylltiedig ag amrywiadau mewn iechyd yn allweddol i nodi ysgogwyr polisi i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant ar draws poblogaethau.

Awduron: James Allen, Andrew Cotter-Roberts+ 4 mwy
, Oliver Darlington, Mariana Dyakova, Rebecca Masters, Luke Munford

Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd yng Nghymru: Papur trafod dadansoddiad dadelfennu

Nod y papur trafod yw helpu i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’n rhoi cipolwg ar yr anghydraddoldebau iechyd a brofwyd gan grwpiau gwahanol o’r boblogaeth yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig Coronafeirws (COVID-19), gan ddefnyddio methodoleg ystadegol arloesol, ‘Dadansoddi dadgyfansoddiad’.

Mae’r papur yn ceisio meintioli’r bwlch iechyd yng Nghymru, yn ogystal â rhoi dealltwriaeth well o’i brif ysgogwyr ar draws y pum amod hanfodol ar gyfer bywydau ffyniannus i bawb, gan ddefnyddio fframwaith newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n defnyddio tri mesur iechyd hunangofnodedig: 1) mynychder iechyd gweddol/gwael; 2) mynychder lles meddwl isel; a 3) mynychder bodlonrwydd bywyd isel, gan gymharu’r rhain rhwng:
• Y rheiny sydd yn gallu gwneud arbediad o £10/mis o leiaf a’r rheiny nad ydynt yn gallu gwneud hynny;
• Y rheiny sydd yn nodi amddifadedd materol a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny; a
• Y rheiny sydd yn nodi salwch, anabledd neu eiddilwch cyfyngus hirdymor a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny.

Mae’r dadansoddiad wedi creu mewnwelediad i ysgogwyr annhegwch iechyd, gan nodi’r rheiny sy’n cyfrannu fwyaf, sef ‘Cyfalaf Cymdeithasol a Dynol’ a ‘Diogelwch Incwm ac Amddiffyniad Cymdeithasol’; tra bod ‘Gwasanaethau Iechyd’ wedi rhoi cyfrif am y lleiaf. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau systematig yn gallu esbonio llai na hanner (<50%) y bylchau iechyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r canlyniadau iechyd, yn seiliedig ar y modelau ystadegol.

Mae’r papur yn amlygu’r angen am fasged o benderfyniadau polisi a buddsoddi, gan flaenoriaethu prif ysgogwyr annhegwch iechyd, mewn cytundeb ar draws sectorau. Mae archwilio ac ymgysylltu pellach gydag arbenigwyr, rhanddeiliaid, grwpiau a chymunedau perthnasol yn hanfodol i wella dealltwriaeth o’r bwlch tegwch iechyd a’i ysgogwyr.

Mae’n gobeithio llywio’r rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol canlynol:
• Gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol
• Gwneuthurwyr polisïau a deiliaid cyllidebau ar lefelau cenedlaethol a lleol
• Ystadegwyr, gwyddonwyr iechyd a dadansoddwyr data
• Pawb sydd â rôl yn dylanwadu ar y bwlch tegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt

Awduron: James Allen, Mariana Dyakova+ 4 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Oliver Darlington, Rebecca Masters, Mark Bellis

Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu er mwyn Llywio Ymateb ac Adferiad Iechyd Cyhoeddus COVID-19 Cymru Calendr Cryno DIWEDDARIAD Ebrill 2020 – Mawrth 2021

Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu: calendr Cryno DIWEDDARIAD
Mae’r Calendr Cryno Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu hwn yn ddiweddariad o’r Calendr Cryno blaenorol sydd i’w weld yma a fu’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, syntheseiddio a chyflwyno crynodeb clir a chryno o Adroddiadau Sganio’r Gorwel Rhyngwladol COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf, ers mis Ebrill 2021 hyd at fis Mawrth 2022. Mae ffrwd waith Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu wedi’i brofi i arddangos ymchwil llawn gwybodaeth ac effaith wrth gywain data o wledydd eraill ac wedi darparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur ac ansicrwydd y pandemig COVID-19 esblygol, gan geisio gwella a chyfeirio’r fath gamau gweithredu ac ymagweddau yng Nghymru. Nod y crynodeb yw cyfeirio trosolwg cryno o gamau polisi cynhwysfawr, cydlynol, cynhwysol seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi cefnogi ac yn parhau i gefnogi’r strategaethau cenedlaethol tuag at Gymru iachach, fwy cyfartal, gwydn, ffyniannus a chyfrifol yn fyd-eang. Mae’r calendr hwn yn cynnwys negeseuon allweddol ac argymhellion allweddol o dudalen synthesis lefel uchel pob adroddiad Sganio’r Gorwel Rhyngwladol.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 7 mwy
, Claire Beynon, Anna Stielke, James Allen, Abigail Malcolm (née Instone), Andrew Cotter-Roberts, Mischa Van Eimeren, Benjamin Bainham

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno ar Effaith COVID-19 ar iechyd meddwl

Mae pandemig COVID-19 wedi gosod heriau i gymdeithasau, systemau iechyd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled y byd ac wedi arwain at effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd a llesiant hirdymor. Effeithiwyd yn negyddol ar iechyd meddwl ar draws grwpiau o bob oed gan waethygu anghydraddoldebau iechyd presennol.
Mae’r adroddiad hwn yn adolygu ac yn crynhoi’r dystiolaeth ryngwladol o adroddiadau Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol ar effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19 ar iechyd meddwl, gwasanaethau iechyd meddwl a bregusrwydd cynyddol

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 7 mwy
, Claire Beynon, Anna Stielke, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Andrew Cotter-Roberts, Mischa Van Eimeren, Benjamin Bainham

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno Ar effaith COVID-19 ar gynyddu’r Bwlch Iechyd a Bod yn Agored i Niwed

Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r dystiolaeth ryngwladol o’r adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol ar effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19 yn cynyddu’r bwlch iechyd. Mae’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau a grwpiau agored i niwed i ddeall a mynd i’r afael yn well â dosbarthiad anghyfartal effeithiau anuniongyrchol sy’n deillio o’r pandemig.
Mae pandemig COVID-19 wedi achosi heriau digynsail i boblogaethau, systemau iechyd a llywodraethau ledled y byd sydd wedi arwain at effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd parhaus. Mae anghydraddoldebau iechyd wedi gwaethygu, gyda lefelau heintiad, mynd i’r ysbyty a marwolaethau o COVID-19 yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau poblogaeth. At hynny, mae rhai grwpiau hefyd wedi profi effeithiau anuniongyrchol anghyfartal sy’n deillio o’r pandemig a’r mesurau a gymerwyd i’w atal. Ymhlith y ffactorau sylfaenol sy’n cyfrannu at effaith anghyfartal y pandemig COVID-19 mae lefel amddifadedd, addysg, statws iechyd ac adnoddau ariannol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt.

Awduron: Mariana Dyakova, Claire Beynon+ 9 mwy
, Mark Bellis, Anna Stielke, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Andrew Cotter-Roberts, Mischa Van Eimeren, Benjamin Bainham, Angie Kirby, Lauren Couzens (née Ellis)

Cymorth i oedolion yn ystod plentyndod: astudiaeth ôl-weithredol o berthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt ag oedolion, ffynonellau cymorth personol oedolion a’u cysylltiad ag adnoddau gwydnwch plentyndod

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) effeithio ar iechyd a llesiant ar hyd cwrs bywyd. Mae gwytnwch yn nodwedd unigol y gwyddys ei bod yn helpu i negyddu effaith adfyd ac o bosibl yn trawsnewid straen gwenwynig yn straen goddefadwy. Mae cael mynediad at oedolyn dibynadwy yn ystod plentyndod yn hanfodol i helpu plant i feithrin gwydnwch. Nod y papur hwn yw deall y berthynas rhwng cael mynediad bob amser at gymorth oedolion y gellir ymddiried ynddynt ac adnoddau gwydnwch plentyndod, ac archwilio pa ffynonellau cymorth personol oedolion a nifer y ffynonellau cymorth oedolion, sy’n meithrin gwydnwch plentyndod orau.

Awduron: Kathryn Ashton, Alisha Davies+ 4 mwy
, Karen Hughes, Kat Ford, Andrew Cotter-Roberts, Mark Bellis