Ni yw’r Newid – Caffael nad yw’n costio’r ddaear

Mae caffael yn gostus. Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario £7 biliwn ar gaffael. Caffael achosodd 62% o ôl troed carbon GIG Cymru yn 2018/19.
Gall caffael cynaliadwy olygu peidio â phrynu pethau o gwbl, prynu nwyddau sy’n defnyddio ynni ac adnoddau yn effeithlon, nwyddau moesegol fel coffi Masnach Deg, neu gynhyrchion a gwasanaethau lleol sy’n cefnogi busnesau lleol. Gall hefyd helpu i gyflawni blaenoriaethau sefydliadol ac amcanion llesiant, ac yn y pen draw wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Mae’r e-ganllaw yn rhoi cyngor ar sut y gallwn weithredu wrth brynu nwyddau a gwasanaethau gan ystyried yr hyn sydd ei angen arnom, o ble y daw, pa mor hir y bydd yn para a’r effaith a gaiff ar bobl, natur a’r blaned.

Awduron: Tracy Evans, Eurgain Powell

Adroddiad y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022

Cynhyrchwyd ‘Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth’ cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019, mewn ymateb i ddyletswydd uwch bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn unol ag Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r dyletswydd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus “gynnal a gwella bioamrywiaeth (cyhyd â bo hynny’n cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn gywir) a, thrwy wneud hynny, yn hybu cydnerthedd ecosystemau”.
Yn 2023 rydym wedi cyhoeddi Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau wedi’i ddiweddaru, sy’n amlinellu’r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth, gan amlygu’r cynnydd a wnaed rhwng 2019 a 2022 gan gynnwys yn erbyn camau a nodwyd yn ein Cynllun Bioamrywiaeth, Gwneud Lle i Natur.

Awduron: Eurgain Powell

Cyfleoedd Gwyrdd Gwanwyn/ Haf 2022

Mae Cyfleoedd Gwyrdd yn e-gyfarwyddyd newydd gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Mae’r diweddariadau chwarterol yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd i gynorthwyo adferiad gwyrdd Cymru yn sgîl COVID-19, gan nodi cyfleoedd cynaliadwy i gynorthwyo iechyd y boblogaeth.

Awduron: Tracy Evans+ 1 mwy
, Eurgain Powell