![](https://whocc.pobl.tech/wp-content/uploads/2020/12/Anna_Stielke-150x227.jpg)
Ymunodd Anna â’r tîm Iechyd Rhyngwladol yn 2016, ar ôl astudio a gweithio dramor cyn hynny. Yn WHO CC, mae gwaith Anna’n canolbwyntio ar gyfosod, dadansoddi a throsi tystiolaeth ryngwladol ar gyfer prosesau polisi a gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer partneriaid fel Llywodraeth Cymru a WHO. Mae diddordebau Anna’n cynnwys anghydraddoldebau iechyd a datblygu cynaliadwy.