Mae Julie wedi gweithio yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) ers 2020 ac mae bellach yn cefnogi’r tîm Polisi trwy weinyddu a threfnu prosiectau a chyhoeddiadau. Mae profiad blaenorol Julie yn cynnwys rolau masnachol mewn busnes rhyngwladol, yn ogystal â rolau rheng flaen a swyddfa yn y GIG. Yn ei hamser rhydd, mae Julie’n mwynhau dawnsio neuadd a’r awyr agored.