« Cyfeiriadur staff

Mae diddordebau ymchwil Becky yn cynnwys nodi rhagfynegwyr llesiant a seicopatholeg mewn pobl ifanc, gan archwilio meysydd a rhesymau dros anghyfartaledd ac adfyd; a chymryd agwedd iechyd y cyhoedd tuag at hwyluso gwella canlyniadau iechyd meddwl gydol oes pobl. Yn ystod ei PhD, ymchwiliodd i ragfynegwyr llesiant a seicopatholeg ymhlith pobl ifanc lleiafrifoedd rhywiol yn y DU. Mae hi’n gyfarwydd â methodolegau meintiol ac ansoddol datblygedig ac mae wedi gweithio gyda data carfannau mawr (h.y. Astudiaeth Carfan y Mileniwm). Mae Becky bellach yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant – fel Swyddog Ymchwil Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl