Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth am Uned Gymorth HIA Cymru, Asesiad Effaith Iechyd (HIA) a’r broses fel y’i hymarferir yng Nghymru, newyddion a datblygiadau diweddar. Mae’n darparu adnodd i’r rhai sy’n cynnal HIA ar hyn o bryd, llunwyr polisi a’r rhai sy’n newydd i’r broses ac sy’n chwilio am wybodaeth a thystiolaeth.  Mae dolenni ar gael i’r HIA sydd wedi’u cwblhau yng Nghymru a gweithgareddau eraill  HIA o’r Uned, er enghraifft hyfforddiant a gwybodaeth a dolenni i adnoddau a chanllawiau defnyddiol.

Y Newyddion Diweddaraf

11 Gorffennaf 2023

Adroddiad newydd: Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor […]

Page Icon
14 Ebrill 2023

Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA)

Mae papur newyddiadurol newydd yn y BMJ, a gafodd ei gyhoeddi a’i gyd-awduro gan aelodau o dîm Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), yn ystyried goblygiadau iechyd penderfyniad y DU i ymuno ag un o gytundebau masnach rydd mwyaf y byd, sef Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) Mae’r papur yn […]

Page Icon
28 Mawrth 2023

Rhwydwaith Ymarfer HIA – Asesiadau Effaith Integredig (IIA) digwyddiad

Bydd y sesiwn hon ar gyfer Rhwydwaith Ymarfer HIA yn canolbwyntio ar Asesiadau Effaith Integredig. Bydd siaradwyr yn archwilio amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau o ddefnyddio a dylunio Asesiadau Effaith Integredig. Bydd hyn yn cynnwys datblygu offeryn Asesiadau Effaith Integredig ar-lein, sut i ymgorffori iechyd, Sicrhau Ansawdd, a dull Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd […]

14 Tachwedd 2022

Effeithiau a ragwelir ac a arsylwyd o ganlyniad i gloi COVID-19: dau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru a’r Alban

Mae Asesu’r Effaith ar Iechyd yn ymagwedd allweddol a ddefnyddir yn rhyngwladol i nodi effeithiau cadarnhaol a negyddol polisïau, cynlluniau a chynigion ar iechyd a lles. Yn 2020, cynhaliwyd HIA yng Nghymru a’r Alban i nodi effeithiau posibl y mesurau ‘aros gartref’ a chadw pellter corfforol ar iechyd a lles a weithredwyd ar ddechrau pandemig […]

16 Hydref 2022

Hwyluswyr, Rhwystrau a Safbwyntiau ar Rôl Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd wrth Hyrwyddo a Defnyddio Asesiadau Effaith ar Iechyd – Arolwg Cwmpasu Rhithwir Rhyngwladol a Chyfweliadau Arbenigol

Mae gan sefydliadau iechyd y cyhoedd rôl bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo a diogelu iechyd a llesiant poblogaethau. Ffocws allweddol sefydliadau o’r fath yw penderfynyddion ehangach iechyd, gan groesawu’r angen i hyrwyddo ‘Iechyd ym mhob Polisi’ (HiAP). Offeryn gwerthfawr i gefnogi hyn yw’r asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA). Mae’r astudiaeth gwmpasu hon yn anelu […]

Page Icon
12 Gorffennaf 2022

Adroddiad newydd: Diogelu lles meddwl cenedlaethau’r dyfodol: dysgu o COVID-19 ar gyfer y tymor hir. Dull Asesu Effaith Lles Meddyliol.

Mae’r Asesiad cynhwysfawr hwn o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) wedi’i gynnal gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru i nodi effeithiau pandemig COVID-19, ac ymatebion polisi cysylltiedig, ar les meddwl pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru. Nod yr adroddiad yw darparu tystiolaeth a dysgu i lywio polisi ac arfer traws-sector sydd wedi’i gyfeirio […]