Cymharu perthnasoedd rhwng mathau unigol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau sy’n gysylltiedig ag iechyd mewn bywyd: astudiaeth data sylfaenol gyfunol o wyth arolwg

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn dangos cysylltiadau cronnol cryf ag afiechyd mewn bywyd. Gall niwed ddod i’r amlwg hyd yn oed yn y rhai sy’n dod i gysylltiad ag un math o ACE ond ychydig o astudiaethau sy’n archwilio cysylltiad o’r fath. Ar gyfer unigolion sy’n profi un math o ACE, rydym yn archwilio pa ACE sydd â’r cysylltiad cryfaf â’r gwahanol brofiadau sy’n achosi niwed i iechyd.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 2 mwy
, Katie Creswell, Kat Ford

Cartrefi oer a’u cysylltiad ag iechyd a llesiant: adolygiad llenyddiaeth systematig

Fel rhan o brosiect ehangach i benderfynu a yw’r safonau cyfredol ar gyfer tymereddau dan do ar aelwydydd Cymru yn optimaidd ar gyfer cysur, iechyd a llesiant pobl, nod yr adolygiad hwn yw pennu ac arfarnu’r dystiolaeth gyfredol ynglŷn â’r cysylltiad rhwng cartrefi oer ar y naill law ac iechyd a llesiant ar y llaw arall.

Awduron: Hayley Janssen, Ben Gascoyne+ 4 mwy
, Kat Ford, Rebecca Hill, Manon Roberts, Sumina Azam

Cysylltiadau rhwng Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a Phrofiad Oes o Ddamweiniau Ceir a Llosgiadau: Astudiaeth Drawsdoriadol

Gan ddefnyddio sampl o boblogaeth gyffredinol y DU, mae’r astudiaeth hon wedi nodi perthnasoedd rhwng dod i gysylltiad ag ACEs a phrofiad oes o ddamweiniau ceir a llosgiadau; dau brif farciwr o anafiadau anfwriadol. Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at yr angen am ymyriadau effeithiol i atal ACEs a lleihau eu heffeithiau ar iechyd a llesiant. Gall dealltwriaeth well o’r berthynas rhwng ACEs ac anafiadau anfwriadol, a’r mecanweithiau sy’n cysylltu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod â risgiau anafiadau, fod o fudd i ddatblygu dulliau amlochrog o atal anafiadau.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 3 mwy
, Katie Creswell, Nel Griffith, Mark Bellis

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i rieni a chyflawni cosb gorfforol i blant yng Nghymru

Yn 2022, ymunodd Cymru â’r nifer cynyddol o wledydd i wahardd cosbi plant yn gorfforol ym mhob lleoliad. Gan ddefnyddio data a gasglwyd flwyddyn cyn y newid deddfwriaethol, mae’r astudiaeth hon yn archwilio’r berthynas rhwng amlygiad rhieni Cymru i ACEs wrth dyfu i fyny a’u defnydd o gosb gorfforol tuag at blant.

Awduron: Karen Hughes, Kat Ford+ 2 mwy
, Mark Bellis, Rebekah Amos

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a’u perthynas â chanlyniadau iechyd rhywiol gwael: canlyniadau o bedwar arolwg trawstoriadol

Mae gwella dealltwriaeth o ffactorau risg ar gyfer ymddygiad rhywiol peryglus yn hanfodol i sicrhau gwell iechyd rhywiol ar gyfer y boblogaeth. Archwiliodd yr astudiaeth hon gysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a chanlyniadau iechyd rhywiol gwael yn y DU. Mae’r canfyddiadau yn tynnu sylw at yr angen am ymyriadau effeithiol i atal a gwella effeithiau gydol oes ACEs. Gallai perthnasoedd wedi’u llywio gan drawma ac addysg rhyw, gwasanaethau iechyd rhywiol, a gwasanaethau cyn-enedigol ac ôl-enedigol, yn enwedig ar gyfer y glasoed a rhieni ifanc, roi cyfleoedd i atal ACEs a chefnogi’r rhai yr effeithir arnynt.

Awduron: Sara Wood, Kat Ford+ 4 mwy
, Hannah Madden, Catherine Sharp, Karen Hughes, Mark Bellis

Defnyddio cymwysiadau ffonau symudol i wella diogelwch personol o drais rhyngbersonol – trosolwg o’r cymwysiadau ffonau clyfar sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig

Mae gan drais rhyngbersonol oblygiadau dinistriol i unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws y byd, gan roi baich sylweddol ar systemau iechyd, cyfiawnder a lles cymdeithasol. Gallai technoleg ffonau clyfar roi platfform ar gyfer ymyriadau atal trais. Mae’r papur hwn yn archwilio’r dystiolaeth ar argaeledd a phrofiad defnyddwyr o gymwysiadau ffonau clyfar y DU, gyda’r nod o atal trais a gwella diogelwch personol. Mae gan y canfyddiadau oblygiadau ar gyfer datblygu polisi ar gymwysiadau i wella diogelwch personol, yn enwedig o ystyried trafodaethau polisi cenedlaethol diweddar (e.e. y DU) am eu defnyddioldeb.

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis+ 3 mwy
, Natasha Judd, Nel Griffith, Karen Hughes

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) a COVID-19 yn Bolton

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio archwilio unrhyw gysylltiad rhwng amlygiad ACE a haint COVID-19, ar gyfer poblogaeth Bolton. Bydd hefyd yn ceisio nodi a yw amlygiad ACE yn gysylltiedig â’r canlynol: ymddiriedaeth mewn gwybodaeth iechyd COVID-19; agweddau tuag at, a chydymffurfiaeth â chyfyngiadau COVID-19 (e.e. defnyddio gorchuddion wyneb, cadw pellter cymdeithasol); ac agweddau tuag at frechu rhag COVID-19. Bydd gwell dealltwriaeth o berthnasoedd o’r fath yn helpu gwasanaethau lleol i ddeall sut y gallant annog cydymffurfiaeth â chyfyngiadau iechyd y cyhoedd a’r nifer sy’n cael eu brechu; gwybodaeth sy’n hanfodol ar gyfer targedu negeseuon iechyd a rheoli bygythiadau i iechyd y cyhoedd, gan gynnwys pandemigau yn y dyfodol.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 2 mwy
, Hayley Janssen, Mark Bellis

Gwerthusiad o ffilm fer yn hyrwyddo caredigrwydd yng Nghymru yn ystod cyfyngiadau COVID-19 #AmserIFodYnGaredig

IMewn ymateb i gyfyngiadau COVID-19 olynol yng Nghymru, lansiodd Hyb Cymorth ACE Cymru yr ymgyrch #AmserIFodYnGaredig ym mis Mawrth 2021. Defnyddiodd yr ymgyrch ffilm fer a ddarlledwyd ar deledu cenedlaethol a’i hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol i annog newid ymddygiad er mwyn bod yn garedig. Mae’r llawysgrif hon yn gwerthuso ffilm yr ymgyrch #AmserIFodYnGaredig. Roedd y canfyddiadau’n awgrymu’n gryf y gall ffilm fod yn arf effeithiol i hybu newid ymddygiad er mwyn bod yn garedig ac y gall hyd yn oed ffilmiau sy’n ysgogi adweithiau emosiynol cryf gael eu dirnad yn gadarnhaol ac arwain at newid ymddygiad. Mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn berthnasol i sut y gall negeseuon iechyd y cyhoedd addasu a defnyddio gofod ar-lein i dargedu unigolion a hyrwyddo newid ymddygiad.

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis+ 2 mwy
, Rebecca Hill, Karen Hughes

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod mamau a’u cysylltiad â genedigaeth cyn amser: dadansoddiad eilaidd o ddata ymwelwyr iechyd cyffredinol

Gall cael eich geni cyn diwedd beichiogrwydd arwain at oblygiadau iechyd tymor byr a gydol oes, ac eto mae’n parhau i fod yn anodd pennu’r risg o enedigaeth cyn amser ymhlith mamau beichiog. Ar draws gwahanol leoliadau iechyd, rhoddir sylw cynyddol i ganlyniadau iechyd ac ymddygiadol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) megis cam-drin neu esgeulustod, neu ddod i gysylltiad ag amgylcheddau niweidiol yn y cartref (e.e. lle mae’r rhai sy’n rhoi gofal yn camddefnyddio alcohol), a’r gwerth posibl o ddeall y niweidiau cudd hyn wrth gefnogi unigolion a theuluoedd. Mae sylfaen dystiolaeth ryngwladol fawr yn disgrifio’r cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau blynyddoedd cynnar i famau a phlant. Fodd bynnag, mae’r berthynas rhwng ACEs mamau a genedigaeth cyn amser wedi cael llai o sylw o lawer.

Awduron: Katie Hardcastle, Kat Ford+ 1 mwy
, Mark Bellis

Cysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, agweddau tuag at gyfyngiadau COVID-19 a phetruster o ran y brechlyn: astudiaeth drawsdoriadol

Dangoswyd bod trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â llesiant meddyliol gwaeth, gyda rhai astudiaethau’n awgrymu y gall arwain at lai o ymddiriedaeth yng ngwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Nododd ymchwil a gynhaliwyd gydag oedolion yng Nghymru fod petruster brechu deirgwaith yn uwch ymhlith pobl a oedd wedi profi pedwar neu ragor o fathau o drawma yn ystod plentyndod nag ydoedd ymhlith y rhai nad oedd wedi profi unrhyw fath o drawma yn ystod plentyndod.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 4 mwy
, Kat Ford, Hannah Madden, Freya Glendinning, Sara Wood

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn Bolton: Effeithiau ar iechyd, llesiant a gwydnwch

Mae tystiolaeth sylweddol yn nodi’r effeithiau andwyol y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) eu cael ar iechyd, llesiant a chyfleoedd bywyd ehangach unigolion. Mae nifer o astudiaethau yn y DU wedi nodi cyffredinolrwydd ac effeithiau ACEs ar lefel genedlaethol, ond ychydig o astudiaethau sydd wedi’u cynnal ar lefel leol. Gall deall sut mae ACEs yn effeithio ar boblogaethau lleol alluogi awdurdodau lleol a phartneriaethau i deilwra eu gwasanaethau cymorth, gan dargedu adnoddau at anghenion iechyd y poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu. Gweithredwyd yr astudiaeth hon gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor ar ran Cyngor Bolton i ddeall effaith ACEs ar iechyd a llesiant oedolion yn ardal Awdurdod Lleol Bolton. Mae’r astudiaeth yn archwilio:
■ Mynychder yr achosion o ACEs yn Awdurdod Lleol Bolton;
■ Y berthynas rhwng ACEs ac iechyd a llesiant;
■ Ffactorau gwydnwch a all gynnig amddiffyniad rhag effeithiau niweidiol ACEs.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 1 mwy
, Mark Bellis

Canfyddiadau o ffilm fer wedi’i hanimeiddio ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: gwerthusiad dulliau cymysg

Mae’r papur hwn yn gwerthuso ffilm animeiddiedig fer ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) i archwilio agweddau a theimlad gwylwyr tuag at y ffilm gan gynnwys, ar gyfer is-haen o weithwyr proffesiynol, cysylltiadau rhwng agweddau a phrofiad personol o ACEs.

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis+ 2 mwy
, Kate R Isherwood, Karen Hughes

Cymorth i oedolion yn ystod plentyndod: astudiaeth ôl-weithredol o berthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt ag oedolion, ffynonellau cymorth personol oedolion a’u cysylltiad ag adnoddau gwydnwch plentyndod

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) effeithio ar iechyd a llesiant ar hyd cwrs bywyd. Mae gwytnwch yn nodwedd unigol y gwyddys ei bod yn helpu i negyddu effaith adfyd ac o bosibl yn trawsnewid straen gwenwynig yn straen goddefadwy. Mae cael mynediad at oedolyn dibynadwy yn ystod plentyndod yn hanfodol i helpu plant i feithrin gwydnwch. Nod y papur hwn yw deall y berthynas rhwng cael mynediad bob amser at gymorth oedolion y gellir ymddiried ynddynt ac adnoddau gwydnwch plentyndod, ac archwilio pa ffynonellau cymorth personol oedolion a nifer y ffynonellau cymorth oedolion, sy’n meithrin gwydnwch plentyndod orau.

Awduron: Kathryn Ashton, Alisha Davies+ 4 mwy
, Karen Hughes, Kat Ford, Andrew Cotter-Roberts, Mark Bellis

Costau blynyddol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yng Nghymru

Infograffig sy’n tynnu sylw at gostau blynyddol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yng Nghymru. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cynyddu risgiau unigolion o fabwysiadu ymddygiadau sy’n niweidio iechyd a datblygu afiechyd. Defnyddiwyd data arolwg ACE i gyfrifo cyfran yr ymddygiadau risg iechyd a’r cyflyrau iechyd allweddol y gellir eu priodoli i ACEs ac amcangyfrif y costau blynyddol cysylltiedig i Gymru.

Awduron: Karen Hughes, Kat Ford+ 1 mwy
, Mark Bellis

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndodl: astudiaeth ôl-weithredol i ddeall eu heffaith ar salwch meddwl, hunan-niwed ac ymgais i gyflawni hunanladdiad ym mhoblogaeth gwrywaidd carchardai yng Nghymru

Mae carcharorion mewn mwy o berygl o iechyd meddwl gwael ac ymddygiad hunan-niweidio, a hunanladdiad yw prif achos marwolaeth yn y ddalfa. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE), fel cam-driniaeth pan yn blentyn, yn rhagfynegyddion cryf o iechyd a lles meddwl gwael ond er gwaethaf lefelau uchel o ACE mewn poblogaethau troseddwyr, cymharol ychydig o astudiaethau sydd wedi archwilio’r berthynas rhwng ACE ac iechyd a lles meddwl carcharorion.

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis+ 3 mwy
, Karen Hughes, Emma Barton, Annemarie Newbury

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod mewn poblogaethau plant sydd yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches 

Nod yr adroddiad hwn yw dwyn ynghyd yr hyn a wyddom am ACE mewn plant sydd yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches sydd yn cyrraedd ac yn ymgartrefu mewn gwledydd lletyol, gan amlygu eu natur, eu graddfa a’u heffaith.

Awduron: Sara Wood, Kat Ford+ 4 mwy
, Katie Hardcastle, Jo Hopkins, Karen Hughes, Mark Bellis

Canlyniadau iechyd cwrs bywyd a chostau blynyddol cysylltiedig profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ledled Ewrop a Gogledd America: meta-ddadansoddiad

Mae nifer gynyddol o astudiaethau yn nodi cysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) ac afiechyd trwy gydol cwrs bywyd. Ein nod oedd cyfrifo cyfran y ffactorau risg mawr ar gyfer iechyd gwael ac achosion y gellir eu priodoli i un neu sawl math o ACE a’r costau ariannol cysylltiedig.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 4 mwy
, Kat Ford, Gabriela Ramos Rodriguez, Dineshi Sethi, Jonathon Passmore

Deall y cysylltiad rhwng iechyd geneuol gwael sydd wedi ei hunan-gofnodi a chyswllt â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: astudiaeth ôl-weithredol

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol, gael effaith andwyol ar iechyd plant ac oedolion. Fodd bynnag, ychydig o ymchwil sydd wedi archwilio’r effaith y mae profiadau bywyd cynnar o’r fath yn ei chael ar iechyd y geg. Mae’r astudiaeth hon yn ystyried a yw profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod cyn 18 oed yn gysylltiedig ag iechyd deintyddol gwael sydd wedi ei hunan-gofnodi yn nes ymlaen mewn bywyd.

Awduron: Kat Ford, Paul Brocklehurst+ 3 mwy
, Karen Hughes, Catherine Sharp, Mark Bellis

Y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymholiadau arferol i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Adolygiad cwmpasu.

Adolygiad cwmpasu i archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymholiadau arferol ôl-weithredol mewn oedolion ar gyfer ACEs, gan gynnwys dichonoldeb a derbynioldeb ymhlith ymarferwyr, derbynioldeb defnyddwyr gwasanaeth a chanlyniadau gweithredu.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 5 mwy
, Katie Hardcastle, Lisa Di Lemma, Davies AR, Edwards S, Mark Bellis

Cysylltiadau rhwng marwolaethau plentyndod a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Archwiliad o ddata gan banel trosolwg marwolaethau plant.

Astudiaeth i archwilio a ellid defnyddio data a gesglir yn arferol gan baneli trosolwg marwolaethau plant (CDOPs) i fesur amlygiad i ACE ac archwilio unrhyw gysylltiadau rhwng ACEs a chategorïau marwolaethau plant. Astudiwyd data yn cwmpasu pedair blynedd (2012-2016) o achosion o CDOP yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Awduron: Hannah Grey, Kat Ford+ 3 mwy
, Mark Bellis, Helen Lowey, Sara Wood

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, perthnasoedd plentyndod a defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cysylltiedig mewn Ewropeaid ifanc.

Mae’r astudiaeth hon yn cyfuno data o 10 astudiaeth ACE drawsdoriadol Ewropeaidd ymhlith oedolion ifanc mewn sefydliadau addysgol, i archwilio mynychder ACE, perthnasoedd plentyndod cefnogol a chanlyniadau iechyd (cychwyn alcohol yn gynnar, defnydd problemus o alcohol, ysmygu, defnyddio cyffuriau, therapi, ymgais i gyflawni hunanladdiad).

Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 16 mwy
, Dinesh Sethi, Rachel Andrew, Yongjie Yon, Sara Wood, Kat Ford, Adriana Baban, Larisa Boderscova, Margarita Kachaeva, Katarzyna Makaruk, Marija Markovic, Robertas Povilaitis, Marija Raleva, Natasa Terzic, Milos Veleminsky, Joanna WÅ‚odarczyk, Victoria Zakhozha

Deall canlyniad hysbysiadau diogelu’r heddlu i’r gwasanaethau cymdeithasol yn Ne Cymru.

Cafodd hysbysiadau diogelu’r heddlu dros gyfnod o flwyddyn i awdurdod lleol yng Nghymru eu paru â chofnodion gofal cymdeithasol i ddeall lefelau y bobl agored i niwed a nodwyd gan yr heddlu a’u canlyniadau ar ôl eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol.

Awduron: Kat Ford, Annemarie Newbury+ 6 mwy
, Meredith Zoe, Jessica Evans, Karen Hughes, Janine Roderick, Alisha Davies, Mark Bellis