Beth Sy’n Gweithio gydag Atal ac Ymyrraeth Gynnar o ran ACEs ar Lefel Gymunedol? Nodi a Chefnogi Prosiectau ledled Cymru

Dangosodd ymchwil flaenorol a wnaed gan Hyb ACE Cymru fod prosiectau cymunedol ledled Cymru yn darparu cymorth i aelodau’r gymuned mewn perthynas ag ystod o adfydau. Gan adeiladu ar yr ymchwil hwn, nod y prosiect hwn yw nodi a mapio prosiectau cymunedol pellach; deall y dulliau mwyaf effeithiol o gefnogi’r prosiectau hyn yn ogystal â’r rhwystrau i ymgysylltu; ac yn olaf i archwilio effaith gwasanaethau ar grwpiau cymunedol.

Awduron: Samia Addis, Joanne C. Hopkins

Beth sy’n Gweithio o ran Atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) ar Lefel Gymunedol? Adolygiad o Dystiolaeth ac Ymarfer Mapio

Mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) yn brofiadau dirdynnol sy’n digwydd yn ystod plentyndod sy’n gwneud niwed uniongyrchol i blentyn (er enghraifft, camdriniaeth) neu sy’n effeithio arno drwy’r amgylchedd y mae’n byw ynddo (er enghraifft dod i gysylltiad â thrais domestig). Nod y prosiect hwn yw nodi ymyriadau effeithiol ar lefel gymunedol sy’n ymwneud ag atal ACEs a nodi mentrau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru.

Awduron: Samia Addis, Troy Wey+ 2 mwy
, Ellie Toll, Joanne C. Hopkins

‘Wedi’i Lywio gan Drawma’: Adnabod Iaith a Therminoleg Allweddol trwy Adolygiad o’r Llenyddiaeth

Er bod y cysylltiad rhwng digwyddiadau trawmatig a chanlyniadau iechyd gwael yn cael ei gofnodi’n gyson, mae terminoleg a chydrannau dulliau ac arferion sy’n gysylltiedig â thrawma a astudiwyd gan ymchwilwyr ac a ddefnyddir gan ymarferwyr wedi’u cyflwyno’n llai clir a chyson. Nod yr astudiaeth hon yw archwilio’r derminoleg a’r iaith a ddefnyddir mewn perthynas â’r cysyniad o wedi’i lywio gan drawma.

Awduron: Samia Addis, Tegan Brierley-Sollis+ 2 mwy
, Vicky Jones, Caroline Hughes