Gwneud y mwyaf o iechyd a llesiant i bobl a chymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol: Canllaw i ddefnyddio’r Ddyletswydd Economaidd- Gymdeithasol mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru.

Mae cyflawni Cymru Fwy Cyfartal yn un o’r saith nod a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddf yn rhoi’r pum ffordd o weithio i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru a fydd yn ein cefnogi i wneud gwell penderfyniadau heddiw ar gyfer Cymru Fwy Cyfartal yfory. Daeth Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol Llywodraeth Cymru i rym yn 2021 a’i nod yw sicrhau canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
Nod y Canllaw hwn yw helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gymhwyso’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol fel y gall weithredu fel ysgogiad pwerus i wella canlyniadau iechyd i bobl a chymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae gan gyrff cyhoeddus gyfle i ymgorffori’r Ddyletswydd yn eu systemau a’u dulliau gweithredu er mwyn sicrhau bod y Ddyletswydd yn gwneud gwahaniaeth systematig ac nad ymarfer ticio blychau yn unig mohono.
Mae animeiddiad cysylltiedig hefyd ar gael trwy’r dolenni isod.

Awduron: Sara Elias, Lewis Brace+ 1 mwy
, Jo Peden

Atal digartrefedd mewn unigolion sydd â phrofiad o ofal

Mae nifer a chyfradd y plant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae unigolion sydd â phrofiad o ofal yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na phobl ifanc eraill.
Mae modelau ymarfer amrywiol i gefnogi pobl ifanc pan fyddant yn gadael gofal gyda’r nod o atal digartrefedd. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi a dadansoddi modelau ymateb Cymru, y Deyrnas Unedig (DU) a rhai rhyngwladol mewn perthynas ag unigolion â phrofiad o ofal (16- 25 oed) ac atal digartrefedd, a nodi arfer addawol yn y maes hwn a meysydd pellach ar gyfer gwelliant.
Ceisiodd yr astudiaeth dulliau cymysg newydd hon roi llais I bobl ifanc â phrofiad o ofal. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth ryngwladol a phrofiad byw unigolion sydd â phrofiad o ofal, ac yn rhoi awgrymiadau gan ddarparwyr gwasanaethau ar fodelau gofal newydd a’r ffordd orau o roi’r rhain ar waith.
Bydd o ddiddordeb i lunwyr polisi, ymarferwyr tai ac ymarferwyr gofal cymdeithasol fel ei gilydd.

Awduron: Claire Beynon, Laura Morgan+ 5 mwy
, Laura Evans, Oliver Darlington, Louise Woodfine, Lewis Brace, Manon Roberts