Cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant

Mae cyfoeth o dystiolaeth sy’n dangos yr effaith sylweddol y mae cartrefi pobl yn ei chael ar eu hiechyd a’u llesiant.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyfres o bapurau briffio sy’n ceisio troi’r dystiolaeth hon yn gamau gweithredu. Bydd y gyfres briffio yn:

• Amlinellu ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol tai iach yng Nghymru.
• Rhannu enghreifftiau o sut mae ‘da’ yn edrych ar sail tystiolaeth bresennol ac arfer nodedig.
• Defnyddio’r mewnwelediad hwn, ochr yn ochr â thystiolaeth o brofiadau byw pobl, i nodi camau gweithredu a fydd yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

Mae’r papur briffio hwn yn gosod y cyd-destun ar gyfer y gyfres a’r themâu a’r pynciau y bydd yn ymdrin â nhw.

Awduron: Manon Roberts

Cartrefi oer a’u cysylltiad ag iechyd a llesiant: adolygiad llenyddiaeth systematig

Fel rhan o brosiect ehangach i benderfynu a yw’r safonau cyfredol ar gyfer tymereddau dan do ar aelwydydd Cymru yn optimaidd ar gyfer cysur, iechyd a llesiant pobl, nod yr adolygiad hwn yw pennu ac arfarnu’r dystiolaeth gyfredol ynglŷn â’r cysylltiad rhwng cartrefi oer ar y naill law ac iechyd a llesiant ar y llaw arall.

Awduron: Hayley Janssen, Ben Gascoyne+ 4 mwy
, Kat Ford, Rebecca Hill, Manon Roberts, Sumina Azam

Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau eang a hirdymor ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru a bydd yn parhau i gael effeithiau o’r fath.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ffyrdd y gall yr argyfwng costau byw effeithio ar iechyd a llesiant. Mae’n edrych ar y sefyllfa drwy lens iechyd cyhoeddus er mwyn nodi camau gweithredu ar gyfer llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddiogelu a hybu iechyd a llesiant pobl Cymru wrth ymateb i’r argyfwng costau byw, gan amlinellu sut olwg fydd ar ddull iechyd cyhoeddus o ymdrin â’r argyfwng yn y tymor byr a’r tymor hwy.

Awduron: Manon Roberts, Louisa Petchey+ 4 mwy
, Aimee Challenger, Sumina Azam, Rebecca Masters, Jo Peden

Atal digartrefedd mewn unigolion sydd â phrofiad o ofal

Mae nifer a chyfradd y plant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae unigolion sydd â phrofiad o ofal yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na phobl ifanc eraill.
Mae modelau ymarfer amrywiol i gefnogi pobl ifanc pan fyddant yn gadael gofal gyda’r nod o atal digartrefedd. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi a dadansoddi modelau ymateb Cymru, y Deyrnas Unedig (DU) a rhai rhyngwladol mewn perthynas ag unigolion â phrofiad o ofal (16- 25 oed) ac atal digartrefedd, a nodi arfer addawol yn y maes hwn a meysydd pellach ar gyfer gwelliant.
Ceisiodd yr astudiaeth dulliau cymysg newydd hon roi llais I bobl ifanc â phrofiad o ofal. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth ryngwladol a phrofiad byw unigolion sydd â phrofiad o ofal, ac yn rhoi awgrymiadau gan ddarparwyr gwasanaethau ar fodelau gofal newydd a’r ffordd orau o roi’r rhain ar waith.
Bydd o ddiddordeb i lunwyr polisi, ymarferwyr tai ac ymarferwyr gofal cymdeithasol fel ei gilydd.

Awduron: Claire Beynon, Laura Morgan+ 5 mwy
, Laura Evans, Oliver Darlington, Louise Woodfine, Lewis Brace, Manon Roberts