![](https://whocc.pobl.tech/wp-content/uploads/2022/03/Survey-icon-Cym-1-160x226.jpg)
Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Lles yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 8
Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut mae coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data sydd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data’n cael ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.