Mater Trethu

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar bryderon cyfoes ynghylch iechyd y boblogaeth sy’n ymwneud â deiet lle mae trethiant wedi cael ei ystyried neu ei weithredu mewn mannau eraill, a/neu’n arloesi’n hyfyw yng nghyd-destun Cymru. Mae meysydd pwnc lle mae trethiant a dulliau polisi cyllidol eraill eisoes ar waith gan Lywodraeth y DU (er enghraifft, ar alcohol a thybaco) a threthiant sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, heb gael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Awduron: Adam Jones, Sumina Azam+ 1 mwy
, Mark Bellis

Cadernid – Deall y Rhyngddibyniaeth Rhwng Unigolion a Chymunedau

Mae’r adroddiad hwn yn cefnogi camau gweithredu trwy ddwyn tystiolaeth a dealltwriaeth ynghyd o gadernid ar lefel unigol a chymunedol a’r rhyng-ddibyniaeth rhyngddynt, sut i fesur newid mewn cadernid (Adran 4), ac mae’n rhoi trosolwg o raglenni sydd yn ceisio cryfhau cadernid ar lefel unigol a chymunedol.

Awduron: Alisha Davies, Charlotte Grey+ 2 mwy
, Lucia Homolova, Mark Bellis

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol

Nid yw annhegwch ym maes iechyd yn anochel. Caiff camau polisi cydgysylltiedig ar benderfynyddion iechyd ynghyd â dulliau llywodraethu sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu’n dda effaith ddeuol ar leihau’r bwlch iechyd a gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth. Y canllaw hwn yw’r cynnyrch cyntaf a ddatblygwyd o dan Raglen Waith Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles ac mae’n amlinellu pedwar cam allweddol ar sut i syntheseiddio, trosi a chyfleu tystiolaeth economeg iechyd y cyhoedd yn bolisi ac ymarfer. Mae’r pedwar cam cydberthynol yn arwain y darllenydd drwy’r broses o ddatblygu cynhyrchion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd yn benodol i gyd-destun a chynulleidfa darged. Nod y canllaw yw (i) atal dadfuddsoddi mewn iechyd; (ii) cynyddu buddsoddiad mewn ataliaeth (iechyd y cyhoedd); a (iii) prif ffrydio buddsoddiad traws-sectoraidd er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch, gan ysgogi datblygu cynaliadwy ar gyfer ffyniant i bawb. Fe’i datblygwyd yn seiliedig ar ymagwedd dull cymysg gan gynnwys adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau ag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymgynghoriad rhanddeiliaid aml-sectoraidd oedd yn sicrhau perthnasedd a’r gallu i drosglwyddo ar draws sectorau, cyd-destunau, lleoliadau a gwledydd.

Awduron: Mariana Dyakova, Kathryn Ashton+ 2 mwy
, Anna Stielke, Mark Bellis

Y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymholiadau arferol i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Adolygiad cwmpasu.

Adolygiad cwmpasu i archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymholiadau arferol ôl-weithredol mewn oedolion ar gyfer ACEs, gan gynnwys dichonoldeb a derbynioldeb ymhlith ymarferwyr, derbynioldeb defnyddwyr gwasanaeth a chanlyniadau gweithredu.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 5 mwy
, Katie Hardcastle, Lisa Di Lemma, Davies AR, Edwards S, Mark Bellis

Atal eithafiaeth dreisgar yn y DU: Datrysiadau iechyd y cyhoedd

Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn dangos canlyniadau negyddol eithafiaeth dreisgar ar gyfer y boblogaeth gyfan i lesiant a chydlyniad ein cymunedau. Maent yn nodi sut y gall tlodi, anghydraddoldebau, unigedd, cam-drin yn ystod plentyndod, anawsterau gyda hunaniaeth a salwch meddwl gyfrannu at risgiau eithafiaeth dreisgar. Yn bwysicach na dim, mae’r adroddiad yn archwilio sut y gall ymagwedd iechyd y cyhoedd gynnig datrysiadau sy’n targedu’r ffactorau risg hyn tra bod gweithgarwch yr heddlu yn parhau i fynd i’r afael â’r rhai sydd eisoes yn cynllunio erchyllterau terfysgol yn rhagweithiol.

Awduron: Mark Bellis, Katie Hardcastle

Cysylltiadau rhwng marwolaethau plentyndod a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Archwiliad o ddata gan banel trosolwg marwolaethau plant.

Astudiaeth i archwilio a ellid defnyddio data a gesglir yn arferol gan baneli trosolwg marwolaethau plant (CDOPs) i fesur amlygiad i ACE ac archwilio unrhyw gysylltiadau rhwng ACEs a chategorïau marwolaethau plant. Astudiwyd data yn cwmpasu pedair blynedd (2012-2016) o achosion o CDOP yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Awduron: Hannah Grey, Kat Ford+ 3 mwy
, Mark Bellis, Helen Lowey, Sara Wood

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, perthnasoedd plentyndod a defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cysylltiedig mewn Ewropeaid ifanc.

Mae’r astudiaeth hon yn cyfuno data o 10 astudiaeth ACE drawsdoriadol Ewropeaidd ymhlith oedolion ifanc mewn sefydliadau addysgol, i archwilio mynychder ACE, perthnasoedd plentyndod cefnogol a chanlyniadau iechyd (cychwyn alcohol yn gynnar, defnydd problemus o alcohol, ysmygu, defnyddio cyffuriau, therapi, ymgais i gyflawni hunanladdiad).

Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 16 mwy
, Dinesh Sethi, Rachel Andrew, Yongjie Yon, Sara Wood, Kat Ford, Adriana Baban, Larisa Boderscova, Margarita Kachaeva, Katarzyna Makaruk, Marija Markovic, Robertas Povilaitis, Marija Raleva, Natasa Terzic, Milos Veleminsky, Joanna WÅ‚odarczyk, Victoria Zakhozha

Deall canlyniad hysbysiadau diogelu’r heddlu i’r gwasanaethau cymdeithasol yn Ne Cymru.

Cafodd hysbysiadau diogelu’r heddlu dros gyfnod o flwyddyn i awdurdod lleol yng Nghymru eu paru â chofnodion gofal cymdeithasol i ddeall lefelau y bobl agored i niwed a nodwyd gan yr heddlu a’u canlyniadau ar ôl eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol.

Awduron: Kat Ford, Annemarie Newbury+ 6 mwy
, Meredith Zoe, Jessica Evans, Karen Hughes, Janine Roderick, Alisha Davies, Mark Bellis

Ysgogi Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles

Mae’r canllaw hwn yn nodi deg cyfle polisi allweddol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer buddsoddi yng Nghymru. Mae cyfleoedd a nodwyd yn yr adroddiad yn mynd i’r afael â meysydd o faich a chost uchel yng Nghymru, gan sicrhau enillion economaidd yn ogystal ag elw cymdeithasol ac amgylcheddol, a chefnogi twf economaidd cynhwysol cynaliadwy. Bydd y canllaw yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru.

Awduron: Mariana Dyakova, Mark Bellis+ 4 mwy
, Sumina Azam, Kathryn Ashton, Anna Stielke, Elodie Besnier

Gamblo fel mater iechyd y cyhoedd yng Nghymru

Mae gamblo’n cael ei gydnabod fwyfwy fel blaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd twf cyflym yn argaeledd a hysbysebu gamblo, wedi ei ysgogi gan ffactorau yn cynnwys rheoliadau gamblo llac a datblygiad technolegol.

Awduron: Robert D. Rogers, Heather Wardle+ 6 mwy
, Catherine Sharp, Sara Wood, Karen Hughes, Timothy J. Davies, Simon Dymond, Mark Bellis

Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd

Mae ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd (UE) (y cyfeirir ato’n anffurfiol fel “Brexit”) yn ddigwyddiad digynsail yn hanes y DU, ac mae tystiolaeth o effaith Brexit ar ystod eang o feysydd polisi naill ai’n anhysbys neu’n cael ei herio’n sylweddol. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) er mwyn deall goblygiadau posibl Brexit yn well ar gyfer iechyd a lles yng Nghymru yn y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Nerys Edmonds+ 5 mwy
, Laura Morgan, Rachel Andrew, Malcolm Ward, Sumina Azam, Mark Bellis

Gofyn am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) mewn ymweliadau iechyd: Canfyddiadau astudiaeth beilot

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio canfyddiadau allweddol y gwerthusiad o gynllun peilot cychwynnol ymchwiliad ACE a gyflwynwyd gyda mamau yn ystod ymgysylltu cynnar â gwasanaethau ymwelwyr iechyd ledled Ynys Môn, Gogledd Cymru. Cynhaliwyd y peilot rhwng mis Hydref 2017 a mis Gorffennaf 2018 ac ymgysylltodd â 321 o famau mewn trafodaeth gefnogol, gwybodus am ACE am drallod plentyndod a’i effaith ar iechyd, lles a rhianta.

Awduron: Katie Hardcastle, Mark Bellis

Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol

Mae’r adnodd hwn: Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol, yn ymwneud ag ysgolion, addysg ac atal trais. Mae’n rhoi canllawiau i swyddogion ysgolion ac awdurdodau addysg ar sut y gall ysgolion ymgorffori atal trais yn eu gweithgareddau arferol ac ar draws y mannau rhyngweithio y mae ysgolion yn eu darparu gyda phlant, rhieni ac aelodau eraill o’r gymuned. Os caiff ei weithredu, bydd y llawlyfr yn cyfrannu llawer at helpu i gyflawni’r Grwpiau Datblygu Cynaliadwy a nodau iechyd a datblygu byd-eang eraill.

Awduron: Sara Wood, Karen Hughes+ 1 mwy
, Mark Bellis

A yw yfed alcohol ymysg oedolion yn cyfuno â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gynyddu ymwneud â thrais ymysg dynion a menywod? Astudiaeth drawsdoriadol yng Nghymru a Lloegr.

Astudiaeth i archwilio a yw hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cyfuno ag yfed alcohol ymysg oedolion i ragfynegi cyflawni trais ac erledigaeth yn ddiweddar, ac i ba raddau.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 5 mwy
, Kat Ford, Sara Edwards, Olivia Sharples, Katie Hardcastle, Sara Wood

A yw emosiynau sydd yn gysylltiedig ag yfed alcohol yn wahanol yn ôl y math o alcohol? Arolwg traws-adrannol rhyngwladol o emosiynau sydd yn gysylltiedig ag yfed alcohol a dylanwad ar ddewis diod mewn gwahanol leoliadau

Mae’r erthygl hon yn archwilio’r emosiynau sy’n gysylltiedig ag yfed gwahanol fathau o alcohol, p’un a yw’r emosiynau hyn yn wahanol i ddemograffeg gymdeithasol a dibyniaeth ar alcohol ac a yw’r emosiynau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o ddiodydd yn dylanwadu ar ddewis pobl o ddiodydd mewn gwahanol leoliadau.

Awduron: Kathryn Ashton, Mark Bellis+ 3 mwy
, Alisha Davies, Karen Hughes, Adam Winstock

Atal ac Ymateb i Ddigwyddiadau Torfol o Ddiweithdra (MUE) o Safbwynt Iechyd y Cyhoedd

Nod y cyhoeddiad hwn yw mynd i’r afael â’r bwlch a achosir gan leihau neu gau un cyflogwr mawr mewn ardal leol, ac mae’n darparu fframwaith ymateb gwybodus am iechyd y cyhoedd sy’n ystyried yr effaith ar benderfynyddion ehangach iechyd a’r poblogaethau sydd yn cael eu heffeithio.

Awduron: Alisha Davies, Lucia Homolova+ 2 mwy
, Charlotte Grey, Mark Bellis

Ymholiad arferol am hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) yn y boblogaeth cleifion sy’n oedolion mewn lleoliad ymarfer cyffredinol: Astudiaeth braenaru

Archwiliad cychwynnol o ddichonoldeb a derbynioldeb gofyn am hanes o ACE mewn practis meddygon teulu aml-safle mawr yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae’r canfyddiadau’n archwilio profiadau ymarferwyr o gyflwyno ac effeithiau posibl ar gleifion.

Awduron: Katie Hardcastle, Mark Bellis

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a ffynonellau gwydnwch plentyndod: astudiaeth ôl-weithredol o’u cydberthnasau ag iechyd plant a phresenoldeb addysgol

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), gan gynnwys cam-drin ac amlygiad i straenachosyddion yn y cartref, effeithio ar iechyd plant. Gall ffactorau cymunedol sy’n darparu cymorth, cyfeillgarwch a chyfleoedd ar gyfer datblygiad feithrin gwydnwch plant a’u hamddiffyn rhag rhai o effeithiau niweidiol ACEs. Mae’r papur hwn yn archwilio a yw hanes o ACEs yn gysylltiedig ag iechyd a phresenoldeb yn yr ysgol gwael yn ystod plentyndod ac i ba raddau y mae asedau cadernid cymunedol yn gwrthweithio canlyniadau o’r fath.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 6 mwy
, Kat Ford, Katie Hardcastle, Catherine Sharp, Sara Wood, Lucia Homolova, Alisha Davies

Ffynonellau cadernid a’u perthynas gymedroli â niwed yn sgîl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Adroddiad 1: Salwch Meddwl

Cynhaliwyd Arolwg o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Chadernid Cymru i archwilio ffactorau unigol a chymunedol a allai gynnig amddiffyniad rhag effeithiau niweidiol ACE ar iechyd, lles a ffyniant ar draws cwrs bywyd.

Awduron: Karen Hughes, Kat Ford+ 3 mwy
, Alisha Davies, Lucia Homolova, Mark Bellis

Mae ymagwedd rhannu data yn cynrychioli cyfraddau a phatrymau trais gydag ymosodiadau sydd yn anafu yn fwy cywir

Ymchwilio i weld a all rhannu a chysylltu data trais a gesglir fel mater o drefn ar draws systemau iechyd a chyfiawnder troseddol ddarparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o drais, sefydlu patrymau o dan-adrodd a llywio’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso mentrau atal trais yn well.

Awduron: Benjamin J. Gray, Emma Barton+ 4 mwy
, Alisha Davies, Sara Long, Janine Roderick, Mark Bellis

Datblygu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy Iechyd ym Mhob Polisi: Astudiaethau achos o bob cwr o’r byd

Datblygwyd y Llyfr Astudiaeth Achos hwn, Datblygu’r Nodau Datblygu Cynaliadwytdrwy Iechyd ym mhob Polisi: Astudiaethau achos o bob cwr o’r byd fel canlyniad Cynhadledd Ryngwladol Iechyd ym Mhob Polisi Adelaide 2017 a noddwyd ar y cyd gan Lywodraeth De Awstralia a Sefydliad Iechyd y Byd.

Awduron: Cathy Weatherup, Sumina Azam+ 5 mwy
, Michael Palmer, Cathy Madge, Richard Lewis, Mark Bellis, Andrew Charles

Buddsoddi mewn iechyd a lles: Adolygiad o’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad o bolisïau iechyd y cyhoedd i gefnogi gweithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy adeiladu ar Iechyd 2020

Mae heriau iechyd y cyhoedd, anghydraddoldeb, economaidd ac amgylcheddol cynyddol ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO sy’n gofyn am fuddsoddiad brys er mwyn cyflawni datblygu cynaliadwy (diwallu anghenion presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion) a sicrhau iechyd a lles ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Awduron: Mariana Dyakova, Christoph Hamelmann+ 6 mwy
, Mark Bellis, Elodie Besnier, Charlotte Grey, Kathryn Ashton, Anna Schwappach, Christine Charles

Effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod lluosog ar iechyd: adolygiad systematig a metaddadansoddiad

Mae’r adolygiad systematig a’r metaddadansoddiad hwn yn ceisio cyfosod canfyddiadau o astudiaethau yn mesur effaith mathau lluosog o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) ar ganlyniadau iechyd trwy gydol bywyd.

Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 6 mwy
, Katie Hardcastle, Dinesh Sethi, Alexander Butchart, Christopher Mikton, Lisa Jones, Michael P Dunne

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Ein Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2017-2027

Mae Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyflawni ein rôl genedlaethol, ein blaenoriaethau strategol a’n hamcanion lles yn llwyddiannus. Mae proses ymgynghori eang, wedi ei hategu gan adolygiad llenyddiaeth a mapio gwaith rhyngwladol a chydweithio ar draws y sefydliad, wedi ein galluogi i nodi tair blaenoriaeth strategol a chwe amcan strategol ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Awduron: Mariana Dyakova, Lauren Couzens (née Ellis)+ 1 mwy
, Mark Bellis