Gwella iechyd a lles y gaeaf a lleihau pwysau’r gaeaf yng Nghymru – Adroddiad Technegol

Mae’r adroddiad technegol hwn yn cydnabod effeithiau ffactorau tymhorol traddodiadol sy’n achosi iechyd gwael fel y ffliw ac anafiadau oherwydd cwympiadau, yn ogystal â dod o hyd i faterion ehangach fel tlodi, tai gwael ac ymddygiadau afiach sy’n cael effaith sylweddol ar iechyd a lles y gaeaf.

Awduron: Sumina Azam, Thomas Jones+ 4 mwy
, Sara Wood, Emily Bebbington, Louise Woodfine, Mark Bellis

Datblygu system wyliadwriaeth a dadansoddi arferol ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal trais: Safbwynt amlasiantaeth (model De Cymru)

Mae ymdrechion i atal trais yn lleol wedi defnyddio data adrannau achosion brys yn bennaf (ED) i lywio gweithrediadau’r heddlu. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos effeithiolrwydd rhannu data iechyd o ran atal trais. Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth hon ac yn defnyddio data gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans ac adrannau brys tri bwrdd iechyd i ddarparu cynrychiolaeth gyfannol o drais ar lefel leol fel y gellir nodi ffactorau sy’n cyfrannu a’u defnyddio i lywio camau ataliol. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu sefydlu system wyliadwriaeth arferol leol i lywio atal trais.

Awduron: Emma Barton, Sara Long+ 1 mwy
, Janine Roderick

SIFT – Gwelliannau Cynaliadwyedd i Dimau

Yn Saesneg, ystyr SIFT yw ‘Gwelliannau Cynaliadwyedd i Dimau’ ac mae gweithdy SIFT yn cael ei ddatblygu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gwneud y canlynol:
• gwneud cyrff cyhoeddus yn atebol am ymgorffori’r pum ffordd o weithio yn briodol yn eu
holl waith;
• ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddangos sut maent wedi gwneud hyn. Mae gweithdai SIFT yn creu sail dystiolaeth a gall y dystiolaeth hon gael ei hymgorffori yn amcanion y sefydliad er mwyn cefnogi gwell dysgu, cynllunio, cydweithio, a chyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Awduron: Richard Lewis

Goblygiadau Brexit yng Nghymru i Iechyd y Cyhoedd: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd – Adolygiad Cyflym a Diweddariad

Mae hwn yn adroddiad ategol byr ac mae’n adeiladu ar ddadansoddiad manwl o Oblygiadau Brexit yng Nghymru i Iechyd y Cyhoedd: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Ionawr 2019, sy’n archwilio effeithiau posibl Brexit ar iechyd a lles tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy’n byw yng Nghymru.

Awduron: Louisa Petchey, Liz Green+ 5 mwy
, Nerys Edmonds, Mischa Van Eimeren, Laura Morgan, Sumina Azam, Mark Bellis

Deall y cysylltiad rhwng iechyd geneuol gwael sydd wedi ei hunan-gofnodi a chyswllt â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: astudiaeth ôl-weithredol

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol, gael effaith andwyol ar iechyd plant ac oedolion. Fodd bynnag, ychydig o ymchwil sydd wedi archwilio’r effaith y mae profiadau bywyd cynnar o’r fath yn ei chael ar iechyd y geg. Mae’r astudiaeth hon yn ystyried a yw profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod cyn 18 oed yn gysylltiedig ag iechyd deintyddol gwael sydd wedi ei hunan-gofnodi yn nes ymlaen mewn bywyd.

Awduron: Kat Ford, Paul Brocklehurst+ 3 mwy
, Karen Hughes, Catherine Sharp, Mark Bellis

Gweithredu’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: Gwersi o Adolygiad Llenyddiaeth ar Weithredu’r Pum Ffordd o Weithio

Mae’r adnodd hwn yn darparu dysgu a chamau gweithredu allweddol y gall cyrff cyhoeddus, llunwyr polisi ac ymarferwyr eu cymryd i weithredu’r egwyddor datblygu cynaliadwy, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Awduron: Victoria Hands, Radu Cinpoes+ 8 mwy
, Fatima Annan-Diab, Annette Boaz, Carol Hayden, Richard Anderson, Alisha Davies, Sumina Azam, Cathy Weatherup, William King

Deall Tirwedd Plismona wrth Ymateb i Fregusrwydd: Cyfweliadau gyda swyddogion rheng flaen ledled Cymru

Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau sydd wedi ceisio deall y dirwedd o ran plismona bregusrwydd ledled Cymru, a fydd yn ei dro yn cefnogi ymagwedd rhaglen E.A.T. Mae’n amlinellu realiti ymateb i unigolion sy’n agored i niwed ar gyfer swyddogion rheng flaen, y galluogwyr a’r rhwystrau wrth ddarparu gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn archwilio cyflwyno’r hyfforddiant aml-asiantaeth Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd sydd yn wybodus am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (hyfforddiant ACE TIME). Mae’r adroddiad hwn yn darparu’r cyd-destun unigol, sefyllfaol a sefydliadol i weld canfyddiadau ar ôl hyfforddiant ACE TIME a darparu argymhellion allweddol wrth baratoi i gyflwyno rhaglen genedlaethol trawsnewid a newid diwylliant o fewn plismona.

Awduron: Emma Barton, Michelle McManus+ 7 mwy
, Georgia Johnson, Gabriela Ramos Rodriguez, Annemarie Newbury, Hayley Janssen, Felicity Morris, Bethan Morris, Jo Roberts

Symud o Arloesedd yr Heddlu i Raglen Genedlaethol o Drawsnewidiad

Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg lefel uchel o’r siwrnai a’r trawsnewidiad o brosiect lleol PIF Heddlu De Cymru i Raglen Genedlaethol o newid Trawsnewidiol. Mae’n manylu ar fframwaith allweddol rhaglen E.A.T, ei nodau a’i hamcanion, rolau allweddol, y mecanweithiau cyflawni o fewn mesurau hyfforddiant a gwerthuso ACE TIME a ddefnyddir. Cyflwynir canfyddiadau astudiaeth beilot fach, sy’n ystyried cywirdeb y pecyn hyfforddi a’r taclau gwerthuso a ddatblygwyd i fesur effaith yr hyfforddiant cyn ei gyflwyno’n genedlaethol.

Awduron: Annemarie Newbury, Emma Barton+ 5 mwy
, Michelle McManus, Gabriela Ramos Rodriguez, Georgia Johnson, Hayley Janssen, Freya Glendinning

Manteision darparu hyfforddiant Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) i’r heddlu: Safbwynt unigol

Cyhoeddwyd yr erthygl gan y Journal of COMMUNITY SAFETY AND WELL-BEING, ac mae’n darparu naratif o gyflwyno’r hyfforddiant ACE TIME i swyddogion a phartneriaid yr heddlu, fel rhan o drawsnewidiad yr heddlu ledled Cymru. Mae hyn yn amlygu bod swyddogion, yn dilyn hyfforddiant, yn nodi ac yn cymhwyso dealltwriaeth sylfaenol o droseddu a niwed ac yn datblygu dealltwriaeth y cyhoedd o asedau ymyrraeth gynnar presennol a llwybrau cymorth yn eu hardal leol. Mae’r erthygl hefyd yn darparu ystyriaethau ar gyfer cynllunio yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod dulliau gweithredu’n parhau i gael eu hymgorffori.

Awduron: Jo Ramessur-Williams, Annemarie Newbury+ 2 mwy
, Michelle McManus, Sally Rivers

Mater Trethu

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar bryderon cyfoes ynghylch iechyd y boblogaeth sy’n ymwneud â deiet lle mae trethiant wedi cael ei ystyried neu ei weithredu mewn mannau eraill, a/neu’n arloesi’n hyfyw yng nghyd-destun Cymru. Mae meysydd pwnc lle mae trethiant a dulliau polisi cyllidol eraill eisoes ar waith gan Lywodraeth y DU (er enghraifft, ar alcohol a thybaco) a threthiant sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, heb gael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Awduron: Adam Jones, Sumina Azam+ 1 mwy
, Mark Bellis

Cadernid – Deall y Rhyngddibyniaeth Rhwng Unigolion a Chymunedau

Mae’r adroddiad hwn yn cefnogi camau gweithredu trwy ddwyn tystiolaeth a dealltwriaeth ynghyd o gadernid ar lefel unigol a chymunedol a’r rhyng-ddibyniaeth rhyngddynt, sut i fesur newid mewn cadernid (Adran 4), ac mae’n rhoi trosolwg o raglenni sydd yn ceisio cryfhau cadernid ar lefel unigol a chymunedol.

Awduron: Alisha Davies, Charlotte Grey+ 2 mwy
, Lucia Homolova, Mark Bellis

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol

Nid yw annhegwch ym maes iechyd yn anochel. Caiff camau polisi cydgysylltiedig ar benderfynyddion iechyd ynghyd â dulliau llywodraethu sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu’n dda effaith ddeuol ar leihau’r bwlch iechyd a gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth. Y canllaw hwn yw’r cynnyrch cyntaf a ddatblygwyd o dan Raglen Waith Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles ac mae’n amlinellu pedwar cam allweddol ar sut i syntheseiddio, trosi a chyfleu tystiolaeth economeg iechyd y cyhoedd yn bolisi ac ymarfer. Mae’r pedwar cam cydberthynol yn arwain y darllenydd drwy’r broses o ddatblygu cynhyrchion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd yn benodol i gyd-destun a chynulleidfa darged. Nod y canllaw yw (i) atal dadfuddsoddi mewn iechyd; (ii) cynyddu buddsoddiad mewn ataliaeth (iechyd y cyhoedd); a (iii) prif ffrydio buddsoddiad traws-sectoraidd er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch, gan ysgogi datblygu cynaliadwy ar gyfer ffyniant i bawb. Fe’i datblygwyd yn seiliedig ar ymagwedd dull cymysg gan gynnwys adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau ag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymgynghoriad rhanddeiliaid aml-sectoraidd oedd yn sicrhau perthnasedd a’r gallu i drosglwyddo ar draws sectorau, cyd-destunau, lleoliadau a gwledydd.

Awduron: Mariana Dyakova, Kathryn Ashton+ 2 mwy
, Anna Stielke, Mark Bellis

Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd: Prif Adroddiad Achos dros Fuddsoddi

Mae’r adroddiad hwn yn estyniad o gyhoeddiadau Gwneud Gwahaniaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i nod yw llywio, cefnogi ac eirioli polisi iechyd ehangach ac ymagweddau ac ymyriadau traws-sector sy’n cynnig manteision i’r cyhoedd, y system iechyd, cymdeithas a’r economi. Mae’r adroddiad yn crynhoi effaith tai (ar draws deiliadaeth) ar iechyd a lles ar draws cwrs bywyd; mae’n cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn tai fel penderfynydd iechyd trwy nodi pa ymyriadau sy’n gweithio ac yn cynnig gwerth am arian; ac yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ataliol yng Nghymru.

Awduron: Ian Watson, Fiona MacKenzie+ 2 mwy
, Louise Woodfine, Sumina Azam

WHIASU Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd

Yr wythnos hon mae’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer hyfforddiant a meithrin gallu AEI. Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer AEI dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r fframwaith yn ganlyniad 18 mis o ymchwil, datblygiad ac ymgysylltiad. Mae’r ddogfen dechnegol yn manylu ‘Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ar gyfer AEI’ a ‘Llwybr Datblygu AEI’ a ddatblygir yn ddiweddar ac sy’n medru cynorthwyo datblygiad y gweithlu a meithrin gallu.
Datblygwyd y fframwaith gydag ymgysylltiad ac adborth gan ymarferwyr AEI o Gymru a thu hwnt. Yn ogystal, cynlluniwyd gyda mewnbwn gan randdeilliaid allweddol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, swyddogion cynllunio, ymarferwyr iechyd yr amgylchedd ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus.

Awduron: Nerys Edmonds, Lee Parry-Williams+ 1 mwy
, Liz Green

Y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymholiadau arferol i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Adolygiad cwmpasu.

Adolygiad cwmpasu i archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymholiadau arferol ôl-weithredol mewn oedolion ar gyfer ACEs, gan gynnwys dichonoldeb a derbynioldeb ymhlith ymarferwyr, derbynioldeb defnyddwyr gwasanaeth a chanlyniadau gweithredu.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 5 mwy
, Katie Hardcastle, Lisa Di Lemma, Davies AR, Edwards S, Mark Bellis

Atal eithafiaeth dreisgar yn y DU: Datrysiadau iechyd y cyhoedd

Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn dangos canlyniadau negyddol eithafiaeth dreisgar ar gyfer y boblogaeth gyfan i lesiant a chydlyniad ein cymunedau. Maent yn nodi sut y gall tlodi, anghydraddoldebau, unigedd, cam-drin yn ystod plentyndod, anawsterau gyda hunaniaeth a salwch meddwl gyfrannu at risgiau eithafiaeth dreisgar. Yn bwysicach na dim, mae’r adroddiad yn archwilio sut y gall ymagwedd iechyd y cyhoedd gynnig datrysiadau sy’n targedu’r ffactorau risg hyn tra bod gweithgarwch yr heddlu yn parhau i fynd i’r afael â’r rhai sydd eisoes yn cynllunio erchyllterau terfysgol yn rhagweithiol.

Awduron: Mark Bellis, Katie Hardcastle

Astudiaeth HEAR

Mae’r astudiaeth hon yn mynd i’r afael â’r bylchau mewn gwybodaeth am brofiadau oedolion sydd yn geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid yng Nghymru o wasanaethau iechyd, er mwyn llywio polisi ac ymarfer gyda’r nod o wireddu uchelgais Cymru i fod yn Genedl Noddfa, a chefnogi’r sylw cyffredinol y mae iechyd yn ei gael yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Awduron: Ashrafunessa Khanom, Wdad Alanazy+ 20 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis), Bridie Angela Evans, Lucy Fagan, Alex Glendenning, Matthew Jones, Ann John, Talha Khan, Mark Rhys Kingston, Catrin Manning, Sam Moyo, Alison Porter, Melody Rhydderch, Gill Richardson, Grace Rungua, Daphne Russell, Ian Russell, Rebecca Scott, Anna Stielke, Victoria Williams, Helen Snooks

Cysylltiadau rhwng marwolaethau plentyndod a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Archwiliad o ddata gan banel trosolwg marwolaethau plant.

Astudiaeth i archwilio a ellid defnyddio data a gesglir yn arferol gan baneli trosolwg marwolaethau plant (CDOPs) i fesur amlygiad i ACE ac archwilio unrhyw gysylltiadau rhwng ACEs a chategorïau marwolaethau plant. Astudiwyd data yn cwmpasu pedair blynedd (2012-2016) o achosion o CDOP yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Awduron: Hannah Grey, Kat Ford+ 3 mwy
, Mark Bellis, Helen Lowey, Sara Wood

Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019

Cynhyrchwyd ‘Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth’ Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymateb i ddyletswydd uwch bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau yn unol ag Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sydd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth cyhyd â bo hynny’n cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn gywir a, thrwy wneud hynny, yn hybu cadernid ecosystemau.

Mae Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019 yn amlinellu sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynd i’r afael â’i ddyletswydd bioamrywiaeth yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac wedi cyflawni’r gweithredoedd a nodwyd yn ei Gynllun Bioamrywiaeth, Gwneud Lle i Natur.

Awduron: Richard Lewis

Ni yw’r Newid – Treftadaeth Iach

Mae ‘Treftadaeth Iach’ yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd ymarferol y gallwn gyfrannu at Nodau Llesiant Cymru trwy gefnogi ein diwylliant a’r iaith Gymraeg yn y gweithle.

Trwy warchod a dysgu o’n hanes a’n diwylliant gallwn ail-fywiogi, diogelu a rhannu ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein treftadaeth yn offeryn allweddol i gefnogi newid cadarnhaol. Mae pobl sy’n gwybod mwy am ei gilydd a’u hardal leol yn tueddu i chwarae mwy o ran yn eu cymunedau lleol. Yn ogystal â hyn, maent yn meithrin dyfodol cynaliadwy lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol.

Awduron: Richard Lewis, Tracy Evans

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, perthnasoedd plentyndod a defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cysylltiedig mewn Ewropeaid ifanc.

Mae’r astudiaeth hon yn cyfuno data o 10 astudiaeth ACE drawsdoriadol Ewropeaidd ymhlith oedolion ifanc mewn sefydliadau addysgol, i archwilio mynychder ACE, perthnasoedd plentyndod cefnogol a chanlyniadau iechyd (cychwyn alcohol yn gynnar, defnydd problemus o alcohol, ysmygu, defnyddio cyffuriau, therapi, ymgais i gyflawni hunanladdiad).

Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 16 mwy
, Dinesh Sethi, Rachel Andrew, Yongjie Yon, Sara Wood, Kat Ford, Adriana Baban, Larisa Boderscova, Margarita Kachaeva, Katarzyna Makaruk, Marija Markovic, Robertas Povilaitis, Marija Raleva, Natasa Terzic, Milos Veleminsky, Joanna WÅ‚odarczyk, Victoria Zakhozha