Beth Sy’n Gweithio gydag Atal ac Ymyrraeth Gynnar o ran ACEs ar Lefel Gymunedol? Nodi a Chefnogi Prosiectau ledled Cymru

Dangosodd ymchwil flaenorol a wnaed gan Hyb ACE Cymru fod prosiectau cymunedol ledled Cymru yn darparu cymorth i aelodau’r gymuned mewn perthynas ag ystod o adfydau. Gan adeiladu ar yr ymchwil hwn, nod y prosiect hwn yw nodi a mapio prosiectau cymunedol pellach; deall y dulliau mwyaf effeithiol o gefnogi’r prosiectau hyn yn ogystal â’r rhwystrau i ymgysylltu; ac yn olaf i archwilio effaith gwasanaethau ar grwpiau cymunedol.

Awduron: Samia Addis, Joanne C. Hopkins

Beth sy’n Gweithio o ran Atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) ar Lefel Gymunedol? Adolygiad o Dystiolaeth ac Ymarfer Mapio

Mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) yn brofiadau dirdynnol sy’n digwydd yn ystod plentyndod sy’n gwneud niwed uniongyrchol i blentyn (er enghraifft, camdriniaeth) neu sy’n effeithio arno drwy’r amgylchedd y mae’n byw ynddo (er enghraifft dod i gysylltiad â thrais domestig). Nod y prosiect hwn yw nodi ymyriadau effeithiol ar lefel gymunedol sy’n ymwneud ag atal ACEs a nodi mentrau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru.

Awduron: Samia Addis, Troy Wey+ 2 mwy
, Ellie Toll, Joanne C. Hopkins

Ymchwiliad i’r derminoleg a’r dulliau wedi’u llywio gan drawma sy’n cael eu defnyddio gan brosiectau, rhaglenni ac ymyriadau arwyddocaol yng Nghymru

Mae cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol o bwysigrwydd gweithio mewn ffordd wedi’i llywio gan drawma wrth ryngweithio ag eraill, a datganiadau cyhoeddus i’r perwyl hwnnw gan wasanaethau a sefydliadau yng Nghymru. Mae Hyb Cymorth ACE yn gweithio gyda Straen Trawmatig Cymru i ddatblygu “Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth Cenedlaethol i Ymateb i Drawma”. Fel rhan o’r fframwaith hwn, ac yn unol â’r argymhelliad gan Lywodraeth Cymru, mae’r Hyb Cymorth ACE wedi nodi angen i ddeall yn well y defnydd o derminoleg wedi’i llywio gan drawma, gyda’r diffiniadau’n cael eu priodoli i’r derminoleg a’r dulliau sy’n cael eu gweithredu ar draws rhaglenni, prosiectau ac ymyriadau (PPIs) yng Nghymru.

Awduron: Alex Walker, Vicky Jones+ 1 mwy
, Joanne C. Hopkins

Adolygiad o Torri Tir Newydd

Mae’r adolygiad newydd amserol hwn dan arweiniad Hyb Cymorth ACE, yn rhoi diweddariad ar argymhellion yr adroddiad gwreiddiol ond mae hefyd yn myfyrio ar y cynnydd a wnaed yng ngoleuni profiad y pandemig COVID-19. Mae wedi canfod, er bod bylchau yn parhau, y gwnaed rhywfaint o gynnydd gwirioneddol o ran deddfwriaeth polisi yng Nghymru a’r DU ehangach.

Awduron: Joanne C. Hopkins, Amira Assami

Adroddiad Interim Deall Effaith COVID-19 ar Drais ac ACE a Brofir gan Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effaith COVID-19 a’r mesurau diogelu iechyd cysylltiedig ar blant a phobl ifanc trwy adolygiad o’r llenyddiaeth sydd ar gael a dadansoddiad o ddata amlasiantaeth. Mae’n cyfleu effaith annheg a hirdymor y gallai’r pandemig ei gael ar blant a phobl ifanc, ac mae’n amlygu ystyriaethau ar gyfer lleddfu’r canlyniadau negyddol hyn.

Awduron: Annemarie Newbury, Emma Barton+ 2 mwy
, Lara Snowdon, Joanne C. Hopkins